Grŵp Coleg yn Dathlu Dydd Gŵyl Dewi
Mae staff a myfyrwyr ar draws Grŵp Llandrillo Menai wedi bod yn brysur yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi heddiw (Mawrth 1af).
Mae danteithion Cymreig fel bara brith wedi bod ar gael yn y ffreuturau, yn ogystal â byrgyrs cig oen Cymreig a chawl cennin a thatws. Cynhaliwyd cwisiau thema Cymru dros amser cinio hefyd, gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae myfyrwyr lletygarwch ac arlwyo sy'n gweithio yn y ceginau hyfforddi wedi bod yn gweini prydau â thema i'r bwytai sydd wedi'u harchebu'n llawn ar draws Coleg Menai a Choleg Llandrillo heddiw.
I ddathlu’r rhai sy’n gweithio’n galed i ddysgu Cymraeg, neu i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, cynhaliwyd y Gwobrau Cymraeg blynyddol i Staff heddiw hefyd, yng Ngholeg Llandrillo. Cydnabuwyd deuddeg aelod o staff am eu hymrwymiad i, a llwyddiant wrth ddysgu'r Gymraeg.
Yn olaf ond nid lleiaf, cynhaliodd Tesni Hughes, cantores gyfansoddwraig leol, berfformiad byw yn y ffreutur yn Llangefni dros amser cinio.