Myfyrwyr yn Helpu i Lunio Strategaeth Lles
Yn gynharach yr wythnos yma (Dydd Mawrth, Chwefror 28), daeth dros wyth deg o gynrychiolwyr dosbarth o Goleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor ynghyd, i gymryd rhan yn y gynhadledd Addysg Bellach wyneb yn wyneb gyntaf ers dros dair blynedd.
Roedd y gynhadledd draws-Grŵp ryngweithiol, a gynhaliwyd ar gampws Friars Coleg Menai ym Mangor, yn canolbwyntio ar Les Myfyrwyr a chodi ymwybyddiaeth o elusen y Grŵp, Shelter Cymru. Rhoddodd y sesiwn diwrnod cyfan lwyfan i ddysgwyr rannu eu barn a’u profiadau o fywyd yn y coleg. Cawsant gyfle i siarad ag aelodau uwch o'r staff ynghylch unrhyw syniadau a allai fod ganddynt i wella’r ddarpariaeth lles, y gweithgareddau a’r cyfleusterau sydd ar gael yn y coleg.
Anogwyd myfyrwyr hefyd i ystyried enghreifftiau o weithgareddau lles yr hoffent eu gweld yn digwydd yn eu coleg, gan gynnwys creu cymdeithasau fel ‘clybiau llyfrau’ a ‘chlybiau ffilm’, a chynllunio gwibdeithiau fel go-gertio, nofio, a gweithgareddau corfforol eraill.
Roedd siaradwyr gwadd o elusennau ‘Shelter Cymru’ a ‘RASASC Gogledd Cymru’ - Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol, hefyd yn bresennol, i gynnal gweithgareddau gyda’r myfyrwyr.
Amlinellodd Frankie Mairs, o Shelter Cymru, yr hyn y mae'r Elusen yn ei wneud a sut y gallant ddarparu cymorth i unrhyw un sy'n wynebu digartrefedd. Gwahoddwyd myfyrwyr i rannu eu syniadau ar wahanol fathau o weithgareddau codi arian y maent yn eu cynnal yn eu coleg.
Clywodd y myfyrwyr gan Mared Williams, Cynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol o RASASC Gogledd Cymru, hefyd. Cododd ymwybyddiaeth o’r gwahanol fathau o aflonyddu rhywiol a thrais, a beth i’w wneud os byddan nhw, neu eu cyfoedion, yn profi achosion o’r fath byth. Daeth sesiwn Mared i ben gyda chwis.
Cafwyd sgyrsiau i’r myfyrwyr gan aelodau o staff, gan gynnwys Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, a Phennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor, Aled Jones-Griffith.
Meddai Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai,
“Roeddem mor falch o fod wedi gallu cynnal y digwyddiad gwych hwn wyneb yn wyneb eleni, ar ôl tair blynedd o’i gynnal ar-lein oherwydd Covid.
Mae llais y myfyrwyr yn ganolog i lywio cyfeiriad y Grŵp a’i strategaeth les, ac rydym mor ddiolchgar i’r myfyrwyr a gymerodd ran ac a rannodd eu barn a’u syniadau gyda ni.
Ychwanegodd,
“Roedd yn wych gweld myfyrwyr o bob un o’n campysau yn dod i adnabod ei gilydd ac yn cydweithio ar y gweithgareddau”.