Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dewch i gwrdd â Llysgenhadon Llesiant Coleg Llandrillo

Mae Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor yn chwilio am fwy o fyfyrwyr i ddod yn Llysgenhadon Llesiant, a datblygu eu sgiliau fel arweinwyr y dyfodol

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn chwilio am fwy o ddysgwyr i ddod yn Llysgenhadon Llesiant ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/24 yng Ngholeg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor.

Mae’r rhaglen Llysgenhadon Llesiant yn datblygu arweinwyr y dyfodol, gan roi cyfle i fyfyrwyr gynyddu eu sgiliau a’u hyder trwy hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a lles ymhlith cyd-ddysgwyr.

Mae llysgenhadon yn cynyddu cyfleoedd cyfranogiad cynhwysol, yn gweithredu fel llais y dysgwr ar gyfer lles yn y coleg a’r gymuned, ac yn cael cyfleoedd i gael mynediad at hyfforddiant a chymwysterau ychwanegol.

Yma, mae pedwar o Lysgenhadon Llesiant presennol Coleg Llandrillo yn rhoi cipolwg ar faint maen nhw'n mwynhau'r rôl, a'r sgiliau a'r hyder maen nhw wedi'u hennill ohoni.

Mae Kyra Wilkinson a Claire Bailey, sydd ill dwy’n astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3, yn cyfuno eu rolau fel Llysgenhadon Llesiant â bod yn gyd-lywyddion Undeb Myfyrwyr Coleg Llandrillo.

Meddai Kyra: “Gwelodd fy ffrind a minnau'r hysbyseb, ac roedd y ddwy ohonom yn meddwl y byddai’n gyfle gwirioneddol dda i ddod i adnabod y coleg a’n cyfoedion yn well.

“Rydym wedi bod yn rhan o amryw o brosiectau – nifer o grwpiau elusennol, yn gwerthu cacennau i godi arian at Shelter Cymru – ac fe wnaethom drefnu disgo distaw hefyd. Dyma oedd yn un o’n gweithgareddau mwyaf poblogaidd.

“Y rhan orau o fod yn Llysgennad Llesiant yw cyfarfod â phobl newydd, a dod yn gyfarwydd â’r wynebau o’ch cwmpas, a chael cyfleoedd i wneud mwy dros y gymuned.”

Ychwanegodd Kyra: “Mae fy sgiliau rheoli amser yn bendant wedi gwella – rydw i wedi gallu dod i ben â fy nghwrs yn ogystal â bod yn Llysgennad Llesiant yn eithaf da.”

Dywedodd Claire: “Fel Llysgennad Llesiant rydw i wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn cynadleddau myfyrwyr, yn ogystal â gweithgareddau o fewn y coleg fel chwaraeon a gweithgareddau hunanofal.

“Rydym yn cyfarfod ac yn siarad am yr hyn sy'n mynd yn dda i'r Llysgenhadon Llesiant, yr hyn y gallwn ei wella, a pha weithgareddau yr hoffai myfyrwyr y coleg eu gweld.

“Rydw i wedi magu hyder, ac wedi datblygu fy sgiliau cyfathrebu – nid yn unig gyda’r myfyrwyr ond gydag aelodau o staff hefyd.”

Pan ofynnwyd iddi a oes ganddi unrhyw gyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried gwneud cais i fod yn Llysgennad Llesiant, dywedodd Claire: “Os ydych chi'n ystyried y peth, fe ddylech chi fynd amdani yn bendant. Mae’n gyfle da iawn ac mae’n dda i’ch CV hefyd.”

Mae Llinos Price a Chloe Pullen ill dwy yn astudio Gofal Plant Lefel 3. Yn ogystal â helpu gyda gweithgareddau llesiant yn y coleg, mae'r ddwy yn gwirfoddoli gyda'r Brownies fel rhan o'r cynllun.

Meddai Llinos: “Mae'n braf cael ymwneud â'r plant oherwydd mae hefyd yn cysylltu â'r hyn rwy'n ei wneud yn y coleg.

“Dyma fy nhrydedd flwyddyn yn gwirfoddoli, ac rwy'n dysgu llawer o sgiliau y byddaf yn gallu eu defnyddio yn ddiweddarach mewn bywyd pan fyddaf yn dechrau gweithio ym maes gofal plant. Rwy'n cynilo i fynd i'r brifysgol i wneud Gradd BA Anrhydedd mewn Gweithio gyda Phlant a Theuluoedd.

“Os oes unrhyw un yn ystyried gwneud cais i fod yn Llysgennad Llesiant, byddwn i'n dweud ewch amdani. Rydych chi'n cael llawer allan ohono - mae gallu helpu pobl eraill gyda'u llesiant yn rhoi boddhad mawr."

Meddai Chloe: “Dwi'n cael gwefr o fod yn Llysgennad Llesiant a gallu helpu pobl gyda'u lles.

“Mae'n rhaid i chi fod yn ymarferol iawn gyda'r gweithgareddau rydyn ni'n eu gwneud, ac rydych chi'n gwneud llawer o ffrindiau. Mae'n rhaglen epig.”

Meddai Alice Outten, Swyddog Gweithgareddau Llesiant Grŵp Llandrillo Menai: “Dylai pawb ystyried ymuno â thîm y Llysgenhadon eleni. Byddwch yn gallu cymryd rhan mewn llawer o wahanol ddigwyddiadau a phrofiadau, cwrdd â ffrindiau newydd, ac mae’n edrych yn wych i gyflogwyr y dyfodol ar eich CV.

"Mae parodrwydd i wirfoddoli a chymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol ar ben eich astudiaethau yn dangos angerdd, sgiliau trefnu, hyder a brwdfrydedd. Bydd y sgiliau y byddwch yn eu hennill fel llysgennad yn eich helpu i ddatblygu yn eich dyfodol."

I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn Llysgennad Llesiant, e-bostiwch lles@gllm.ac.uk neu cliciwch yma.