Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cwmni cyfryngau cyn-fyfyriwr o Goleg Menai'n cynhyrchu rhaglenni dogfen ar gyfer ITV

Rydym yn cymryd cipolwg ar fywyd Stephen Edwards yn dilyn ei gyfnod ar y cwrs Sylfaen Celf wrth i ni ddathlu cynnal y rhaglen yng Ngholeg Menai am ddeugain mlynedd..

Mae Coleg Menai yn arddangos yn Storiel a'r Galeri ym Mangor ar hyn o bryd i ddathlu 40 mlynedd ers cyflwyno'r cwrs Sylfaen Celf. Mae'r orielau'n dangos gwaith cyn-fyfyrwyr sydd wedi parhau a'u hymdrechion artistig mewn llu o ddiwydiannau, ac yn dangos yr amrywiaeth eang o gyrsiau a chyfleoedd a gynigir yn y coleg.

Yn dilyn astudio Celf, Dylunio a Thechnoleg yn y chweched yn Ysgol Brynrefail, roedd Stephen Edwards sy'n hanu o Lanberis a'i fryd ar fynd i Lundain. Fodd bynnag, gan ei fod yn teimlo nad oedd yn hollol barod ar gyfer bywyd y ddinas, penderfynodd aros yn lleol ac astudio'r cwrs Sylfaen Celf yng nghampws Parc Menai'r coleg yn ystod blwyddyn academaidd 1993-1994.

Dywedodd Stephen: "Buaswn yn annog unrhyw un i astudio yng Ngholeg Menai. Roedd yn waith caled iawn ond yn werth chweil. Y cwrs wnaeth lunio pwy ydw i heddiw."

Gwnaeth y cwrs Celf Syflaen agor sawl drws i Stephen. Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yng Ngholeg Menai, ac astudio am dair blynedd arall, dyfarnwyd BA Anrhydedd mewn Dylunio Graffeg iddo gan Brifysgol Abertawe.

Yn dilyn ei gyfnod yn Abertawe dychwelodd Stephen i'w ardal enedigol a chael swydd fel Dylunydd Graffeg â Chyngor Sir Ynys Môn, a bu'n gwneud y swydd newydd ochr yn ochr â'i ddegawd fel cyflwynydd rhaglen ar Radio Cymru. Ar ben hynny sefydlodd Stephen ei gwmni ei hun, Cread Cyf, yn 2005. Mae Stephen wedi canolbwyntio ei holl sylw ar Cread Cyf ers 2015 ac mae ganddo swyddfa yn MSparc yng Ngaerwen.

Mae'r cwmni'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau graffeg, dylunio a chyfryngau, yn cynnwys darlledu. Un o'i raglenni mwyaf diweddar oedd y gyfres ddogfen ar ITV 'Beyond the Line' a oedd yn dilyn hynt a helynt swyddogion plismona'r ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru. Bu Stephen hefyd yn gweithio ar gyfres ‘Llinell Las’ S4C gyda’r ail gyfres yn dod allan yn fuan a nifer o sioeau eraill i ITV ac ITV Network.

Mae Stephen yn aelod gweithgar o gymuned Gogledd Cymru: mae'n un o drefnwyr Ras Fynydd Ryngwladol eiconig Cymru - Ras yr Wyddfa ac yn gadeirydd Cyngor Cymuned Llanfairpwll a Chlwb Pêl-droed Iau Llanfairpwll.

Mae Stephen hefyd yn llysgennad ‘Big Ideas Wales’, sy'n annog pobl ifanc Cymru i gynyddu eu sgiliau entrepreneuriaeth.

Nid yw wedi anghofio ei gyfnod yma yng Ngholeg Menai, gan ei fod yn un o noddwyr Academi Chwaraeon Coleg Menai.

Mae Stephen yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Choleg Menai yn y dyfodol, gan obeithio rhoi’r cyfle sydd ei angen ar fyfyrwyr i aros mewn cyflogaeth yng Ngogledd Cymru.

I ddarganfod mwy am y Cwrs Sylfaen Celf, neu unrhyw gyrsiau eraill yng Ngholeg Menai, ewch i www.gllm.ac.uk