Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr CMD Dolgellau yn Cymryd Rhan Mewn Prosiect Hanes Llafar Arloesol

Mae Ffion Freeman a Rebecca Fox, dwy o fyfyrwyr Lefel A Coleg Meirion-Dwyfor Dolgellau , wedi bod yn helpu gyda phrosiect hanes llafar yn ddiweddar i goffau sut yr agorodd un pentref bach gwledig ym Meirionnydd eu breichiau i ffoaduriaid oedd yn ffoi rhag erledigaeth 50 mlynedd yn ôl.

Ar ddiwedd 1972, diarddelodd Idi Amin 70,000 o bobl Asiaidd o Uganda; Daeth 28,200 o'r rhain i Brydain. Am chwe mis, bu rhai cannoedd o'r rheini yn lletya yn yr hen ganolfan i’r fyddin Tonfanau ger Tywyn, Meirionnydd.

Mae ‘British Ugandan Asians at 50’ a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, mae’r India Overseas Trust yn cyfweld â phobl a wirfoddolodd yn y gwersyll, neu a oedd eu hunain yn breswylwyr yno. Bydd y prosiect yn cynnwys ffotograffau a dynnwyd ar y pryd, a phethau cofiadwy eraill megis llythyrau, posteri, taflenni, eitemau o Uganda ac ati. Bydd y rhain i gyd yn cael eu cynnwys ar wefan newydd, a hefyd yn cael eu gosod yn barhaol yn yr Archif Ffoaduriaid Byw fel bod myfyrwyr a'r cyhoedd gael mynediad iddynt am ddim.

Cymerodd Ffion a Rebecca amser i ffwrdd yn ystod y penwythnos i helpu ffilmio a chyfweld trigolion lleol am eu hatgofion a’u profiadau o groesawu rhai oedd yn ffoi rhag erledigaeth.

Dywedodd Ffion Freeman: “Roedd cael y cyfle i helpu ar y prosiect hwn yn brofiad hynod galonogol i mi’n bersonol. Mae dysgu sut roedd un gymuned fach wedi helpu’r rhai oedd yn ffoi o Uganda 50 mlynedd yn ôl yn bwysig iawn; roedd yn fraint enfawr.”

Dywedodd Warwick Hawkins o ‘British Asian Uganda at 50’: “Mae cynnwys pobl ifanc, leol yn y prosiect hwn yn rhywbeth sydd wedi bod yn uchel ar ein hagenda o’r dechrau. Dim ond trwy ddysgu a siarad am ein profiadau y byddwn yn deall ac yn clywed lleisiau’r bobl hynny a ddaeth i Tonfanau 50 mlynedd yn ôl. Diolchwn i Ffion a Rebecca am eu gwaith rhagorol ar y prosiect, a’r coleg hefyd, am y gefnogaeth.”

Dywedodd Bethan Lloyd Owen-Hughes, rheolwr maes rhaglen Addysg Gyffredinol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor: “Gan fod Ewrop yn wynebu argyfwng dyngarol arall yn yr Wcrain, roedd cael ein myfyrwyr i gymryd rhan yn y prosiect hwn yn bwysig iawn i ni.”

“Mae hanes a’r byd o’n cwmpas yn gallu bod yn frawychus ar brydiau, mae rhoi dealltwriaeth i’n myfyrwyr o faterion o’r fath bob amser wedi bod yn un o bileri canolog y math o addysg a phrofiad rydyn ni’n eu cynnig i’n myfyrwyr.”

“Rydym yn diolch i brosiect ‘British Asian Uganda at 50’ am y cyfle hwn, ac rydym yn gobeithio gweithio gyda nhw eto wrth i’r prosiect symud i’r cam nesaf.”