Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

GRŴP BWYTAI DYLAN’S YN LANSIO ACADEMI HYFFORDDIANT LLETYGARWCH

12 lle y flwyddyn ar gael ar y brentisiaeth gyda thâl llawn, ym mhob maes o’r busnes. Lansiodd y grŵp bwytai o Ogledd Cymru, Dylan’s, eu hacademi hyfforddiant lletygarwch yr wythnos hon.

The Academy aims to help create a sustainable and accessible apprenticeship training programme for young people who are seeking to find a satisfying and rewarding career in hospitality, with a guaranteed job at the end of their course.

Director at Dylan’s, David Evans, said: “We’re inviting 12 young cadets to take part in the 2-year programme, learning and gaining experience in all areas of our business, starting at their own level.”

Successful applicants to the Dylan’s Academy will benefit from a higher than National Minimum Wage pay throughout their training and education as cadets.

David Evans continued: “Over the years, some hospitality businesses have taken advantage of young apprentices by placing work before education, with a very small wage. We will turn this on its head and reward our cadets for their contributions and investment.”

They will spend 35 hours a week on practical learning within the business, and 5 hours a week focusing on written work and essential study, all guided by an experienced Dylan’s Academy Leader and a personal Mentor.

“The hospitality industry has suffered over the years, expecting new recruits to be there when needed” said David Evans, “but we’re experiencing a lack of skilled applicants, something we know we have to address in the medium to long term, if we’re to keep the industry moving”.

Dylan’s Academy Leaders have over 100 years of collective experience in hospitality in different areas of the industry and will be welcoming prospective cadets at several open days in schools and colleges through the Autumn. On Monday November 8th, an Academy Open Day at Dylan’s Menai Bridge will be held, introducing the Academy leaders to prospective cadets and interested guests.

The restaurant group is partnering with Busnes@LlandrilloMenai to provide NVQ level qualifications and educational support as part of the Academy’s academic focus. Busnes@LlandrilloMenai is the apprenticeship and commercial division of Grŵp Llandrillo Menai.

Rhianwen Edwards, Director of Commercial and Work Based Learning at Busnes@LlandrilloMenai commented:

“The Dylan’s Hospitality Training Academy offers exciting opportunities for apprentices to embark on training knowing a career with Dylan’s awaits them. Dylan’s is tackling staff shortages in Hospitality and Catering head-on with this initiative, by giving apprentices the skills, experience and support to succeed and Busnes@LlandrilloMenai is proud to be a part of supporting the Academy by providing professional training and qualifications.”

Dylan’s have also partnered with Môn CF Anglesey & Gwynedd and Gwaith Gwynedd in the search for cadets who are interested and excited to learn a new trade and develop a career in the hospitality industry.

Academy cadets will have the opportunity to find roles within the restaurant kitchens and front of house teams. There will also be roles in the administrative team at head office, at Dylan’s General Store or within the bakery and retail production kitchen.

Dylan’s hopes to lift the veil on hospitality through its Academy, providing bespoke training in different areas across their restaurant and food retail business, as well as in the expected Front of House and Kitchen roles.

“Hospitality isn’t just about the welcome and the meal…” explains Andy Foster, Executive Chef at Dylan’s, “there’s a lot that goes on behind the scenes, a huge number of roles not usually thought about in relation to hospitality.”

The entire course will comprise of a 2-year full time paid apprenticeship programme, leading to an NVQ level 3 in Professional Cookery for Kitchen cadets.

For Front of House, they will undertake BIIAB, Level 2/3 Licensed Hospitality Skills & Operations, leading on to City & Guilds Hospitality Supervisory & Leadership qualification.

Dylan’s aims to see their Academy also create a helpful template for other hospitality businesses to use in the future, assisting in their efforts to recruit talent into the industry.

Nod yr Academi yw helpu i greu rhaglen hyfforddiant prentisiaeth gynaliadwy a hygyrch i bobl ifanc sy'n ceisio dod o hyd i yrfa werth chweil a llawn boddhad mewn lletygarwch, gyda swydd yn cael ei gwarantu ar ddiwedd eu cwrs.

Dywedodd Cyfarwyddwr Dylan’s, David Evans: “Rydyn ni’n gwahodd 12 cadét ifanc i gymryd rhan yn y rhaglen 2 flynedd, gan ddysgu ac ennill profiad ym mhob maes o’n busnes, gan ddechrau ar eu lefel eu hunain.”

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus i Academi Dylan’s yn elwa o dâl uwch na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol drwy gydol eu hyfforddiant a’u haddysg fel cadetiaid.

Meddai David Evans wedyn: “Dros y blynyddoedd, mae rhai busnesau lletygarwch wedi manteisio ar brentisiaid ifanc drwy osod gwaith cyn addysg, gyda chyflog bach iawn. Byddwn yn troi hyn ar ei ben ac yn gwobrwyo ein cadetiaid am eu cyfraniadau a'u buddsoddiad.”

Byddant yn treulio 35 awr yr wythnos yn dysgu yn ymarferol yn y busnes, a 5 awr yr wythnos yn canolbwyntio ar waith ysgrifenedig ac astudio hanfodol, a’r cyfan dan arweiniad Arweinydd Academi profiadol Dylan’s a Mentor personol.

Mae'r diwydiant lletygarwch wedi dioddef dros y blynyddoedd, gan ddisgwyl i recriwtiaid newydd fod yno pan mae eu hangen” meddai David Evans, “ond rydyn ni'n profi diffyg ymgeiswyr medrus, rhywbeth rydyn ni'n gwybod y mae’n rhaid i ni roi sylw iddo yn y tymor canolig i'r tymor hir, os ydyn ni am gadw'r diwydiant i symud”.

Mae gan Arweinwyr Academi Dylan’s fwy na 100 mlynedd o brofiad ar y cyd ym maes lletygarwch mewn gwahanol feysydd o’r diwydiant a byddant yn croesawu darpar gadetiaid mewn sawl diwrnod agored mewn ysgolion a cholegau drwy’r Hydref. Ddydd Llun Tachwedd 8fed, cynhelir Diwrnod Agored yr Academi yn Dylan’s Porthaethwy, gan gyflwyno arweinwyr yr Academi i ddarpar gadetiaid a gwesteion sydd â diddordeb.

Mae’r grŵp bwytai yn ffurfio partneriaeth gyda Busnes@LlandrilloMenai i ddarparu cymwysterau lefel NVQ a chefnogaeth addysgol fel rhan o ffocws academaidd yr Academi. Busnes@LlandrilloMenai yw adran prentisiaethau a masnachol Grŵp Llandrillo Menai.

Dywedodd Rhianwen Edwards, Cyfarwyddwr Dysgu Masnachol a Seiliedig ar Waith yn Busnes@LlandrilloMenai:

Mae Academi Hyfforddiant Lletygarwch Dylan’s yn cynnig cyfleoedd cyffrous i brentisiaid gychwyn ar hyfforddiant gan wybod bod gyrfa gyda Dylan’s yn aros amdanyn nhw. Mae Dylan’s yn mynd i’r afael â phrinder staff ym maes Lletygarwch ac Arlwyo yn uniongyrchol gyda’r fenter hon, drwy roi i’r prentisiaid sgiliau, profiad a chefnogaeth i lwyddo ac mae Busnes@LlandrilloMenai yn falch o fod yn rhan o gefnogi’r Academi drwy ddarparu hyfforddiant a chymwysterau proffesiynol.

Mae Dylan’s hefyd wedi ffurfio partneriaeth gyda Môn CF Anglesey & Gwynedd a Gwaith Gwynedd wrth chwilio am gadetiaid sydd â diddordeb ac yn gyffrous am ddysgu crefft newydd a datblygu gyrfa yn y diwydiant lletygarwch.

Bydd cadetiaid yr Academi’n cael cyfle i gael swyddi yng ngheginau’r bwytai ac fel aelodau o’r timau blaen tŷ. Bydd swyddi hefyd fel rhan o’r tîm gweinyddol yn y brif swyddfa, yn Siop Dylan’s neu yn y becws a’r gegin cynhyrchu manwerthu.

Mae Dylan’s yn gobeithio agor y drws i letygarwch drwy ei Academi, gan ddarparu hyfforddiant pwrpasol mewn gwahanol feysydd ar draws eu bwytai a’u busnes manwerthu bwyd, yn ogystal ag yn y swyddi Blaen Tŷ a Chegin disgwyliedig.

Nid dim ond y croeso a’r pryd bwyd yw lletygarwch…” eglura Andy Foster, Cogydd Gweithredol yn Dylan’s, “mae llawer yn digwydd y tu ôl i’r llenni, nifer enfawr o swyddi nad oes neb yn meddwl amdanyn nhw fel arfer mewn perthynas â lletygarwch.”

Bydd y cwrs cyfan yn cynnwys rhaglen brentisiaeth lawn amser gyda thâl am 2 flynedd, gan arwain at NVQ lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol ar gyfer cadetiaid Cegin.

Ar gyfer Blaen Tŷ, byddant yn ymgymryd â BIIAB, Sgiliau a Gweithrediadau Lletygarwch Trwyddedig Lefel 2/3, gan arwain at gymhwyster Goruchwylio ac Arweinyddiaeth Lletygarwch City & Guilds.

Nod Dylan’s yw gweld ei Academi hefyd yn creu templed defnyddiol i fusnesau lletygarwch eraill ei ddefnyddio yn y dyfodol, gan gynorthwyo gyda’u hymdrechion i recriwtio talent i’r diwydiant.