Myfyriwr Coedwigaeth yn cipio gwobr Cymdeithas Coedwigaeth Frenhinol
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Nick Roberts, myfyriwr L3 ar gwrs Coedwigaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad yng Ngholeg Glynllifon wedi ennill tarian y Gymdeithas Coedwigaeth Frenhinol.
Cyflwynwyd y darian i Nick mewn seremoni arbennig ar Stad Leighton yn y Trallwng.
Ers 140 o flynyddoedd, mae'r Gymdeithas wedi ymroi i rannu gwybodaeth am gelfyddyd a gwyddor rheoli coetir fel bod doethineb a phrofiad cronedig tirfeddianwyr, coedwigwyr, coedwyr ac eraill yn cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall.
Dywedodd Jeff Roland Jones, Pennaeth adran Coedwigaeth yng Nglynllifon.
“Rydym yn hynod o falch o lwyddiant Nick. Mae hon yn wobr arbennig iawn i’w hennill, ac yn destament o waith caled ac ymroddiad Nick i’w astudiaethau.”
Ychwanegodd
“Mae’r sector Coedwigaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad yn un sydd yn tyfu’n flynyddol yng Nghymru gyda digon o gyfleoedd am gyflogaeth. Da iawn ti Nick, mae’r Coleg yn hynod o falch am dy lwyddiant.”
Os hoffet ti ddysgu mwy am gyrsiau Coedwigaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad Glynllifon, clicia YMA.