Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llwyddiant i Ganolfan Technoleg Bwyd yng Ngwobrau Rhwydwaith Gwledig Cymru

Mae prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r UE, sy’n cael ei redeg gan Ganolfan Technoleg Bwyd, wedi cipio dwy wobr mewn seremoni i ddathlu prosiectau sydd wedi elwa ar Raglen Datblygu Gwledig yr Undeb Ewropeaidd (RDP).

Enwyd Prosiect HELIX, sy’n darparu cymorth technegol a masnachol i weithgynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru, yn enillydd cyffredinol ac enillydd y categori Bwyd a Thwristiaeth yng Ngwobrau Rhwydwaith Gwledig Cymru 2022. Mae’r Ganolfan Technoleg Bwyd, Llangefni yn cyflawni Prosiect HELIX ochr yn ochr â’r ddwy ganolfan fwyd arall yng Nghymru sy’n ffurfio Arloesi Bwyd Cymru.

Rhoddodd y digwyddiad Dathlu Cymru Wledig, a gafodd ei gynnal ar Faes Sioe Frenhinol Cymru ar 9 a 10 Mehefin, gyfle i edrych ar gyflawniadau prosiectau RDP, y gwahaniaeth y maent wedi’u gwneud i bobl a chymunedau ac i edrych ar ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â’r economi wledig yn y dyfodol.

Mae cyllid RDP wedi cefnogi prosiectau yng Nghymru ers sawl blwyddyn, a daw i ben yn 2023 yn dilyn ymadawiad y DU o’r UE. Ymhlith amcanion yr
RDP yr oedd cynyddu cynhyrchiant, amrywiaeth ac effeithlonrwydd busnesau ffermio, annog arferion rheoli tir cynaliadwy a hyrwyddo twf economaidd gwledig cadarn a chynaliadwy.

Cipiodd Prosiect HELIX y wobr yn y categori Bwyd a Thwristiaeth yn ogystal â’r wobr gyffredinol am ei gyflawniadau hyd yma. Mae’r prosiect wedi cefnogi busnesau bwyd drwy uwchsgilio’r gweithlu, cefnogi busnesau newydd a helpu busnesau i dyfu a ffynnu. Mae hyn wedi sicrhau effaith o fwy na £215m i ddiwydiant bwyd a diod Cymru ac wedi arwain at greu 485 o swyddi a diogelu mwy na 2,600.

Esboniodd, Martin Jardine, Cyfarwyddwr Bwyd Amaeth:
“Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae Prosiect HELIX wedi’i wneud i ddiwydiant bwyd a diod Cymru. Trwy hyrwyddo arloesi, effeithlonrwydd ac agwedd strategol at fusnes, mae Prosiect HELIX wedi cefnogi cwmnïau Cymreig i dyfu a chystadlu’n fwy effeithiol mewn marchnad gynyddol gystadleuol. Rydym wrth ein boddau bod y prosiect wedi cael effaith uniongyrchol ar fusnesau ym mhob sir, ledled Gogledd Cymru”

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig: “Wrth i gymorth RDP ddod i ben, mae’n briodol iawn ein bod ni’n dathlu gwaith ac ymdrechion gwych unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled Cymru wrth wneud y gorau o’r cyllid hwn i helpu pobl a chymunedau. “Cafwyd sawl prosiect llwyddiannus a hoffwn longyfarch pob un ohonynt, gan gynnwys y pedwar sy’n derbyn gwobrau yn nigwyddiad Dathlu Cymru Wledig, am y cyfraniadau pwysig a wnaed ganddynt.
“Wrth inni ddatblygu agwedd wirioneddol Gymreig at yr economi wledig i’r dyfodol, mae’n hanfodol ein bod ni’n dysgu o’r prosiectau hyn ac yn adeiladu arnynt.”