Digwyddiad Cymunedol ar Gampws Llangefni yn denu cannoedd o ymwelwyr!
Roedd staff campws Coleg Llandrillo yn Llangefni wrth eu boddau ar ôl croesawu cannoedd o ymwelwyr i'w ddigwyddiad cymunedol hwyliog yn ddiweddar.
Roedd y Digwyddiad Ymgysylltu â'r Gymuned yn ddiwrnod gwych i'r teulu cyfan, gyda llu o weithdai a gweithgareddau dysgu cyffrous ym maes uwch dechnoleg yn cael eu cynnal. Yn sicr, roedd yna rywbeth at ddant pawb... o weithdai dronau i dryciau enfawr yn ogystal â gweithdai llysnafedd! Wrth gyrraedd, roedd pawb yn cael bag o roddion ac enillodd un person lwcus bâr o earbuds Beats Studio!
Llwyddodd y digwyddiad hwyliog i ddod â phobl Llangefni a'r cyffiniau at ei gilydd, gan roi cyfle iddynt ddod i wybod rhagor am gampws Coleg Llandrillo yn Llangefni. Cafodd yr ymwelwyr y cyfle i ymweld â llu o gyfleusterau newydd - diolch i fuddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd yn ddiweddar - a chael rhagolwg cynnar ar gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol.
Cawsant gyfle hefyd i sgwrsio â staff a chymryd rhan mewn gweithgareddau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) amrywiol, gan gynnwys codio, roboteg a pheirianneg.
Yn ogystal â'r diwrnod cymunedol, cynhaliwyd digwyddiad gyrfaoedd a roddodd gyfle i'r ymwelwyr gael cyngor gyrfaol a siarad â chynrychiolwyr o sefydliadau amrywiol fel y Gwasanaeth Tân a'r Fyddin ynghyd â llawer o gwmnïau lleol.
Roedd y digwyddiad yn rhad ac am ddim, yn agored i bawb, ac wedi'i anelu at: ddisgyblion ysgol o ardal Llangefni sy'n ystyried eu dewisiadau ar gyfer mis Medi; rhieni a oedd am ymweld â'r campws i weld y cyfleusterau a siarad â'r staff; trigolion lleol a oedd â diddordeb mewn gweld beth sydd gan y coleg a gwasanaethau lleol i'w gynnig; pobl a oedd â diddordeb mewn cael gwaith neu ddechrau gyrfa newydd, ac yn olaf...teuluoedd a oedd eisiau dim mwy na diwrnod i'r brenin!
Ar y diwrnod, rhoddodd yr ymwelwyr gynnig ar lu o weithgareddau cyffrous a chawsant eu temtio gan bob math o wahanol fwydydd blasus.
Ymhlith yr uchafbwyntiau, roedd: Cestyll Bownsio; Swigod Dr Zigs; F1 mewn Ysgolion; Gweithdy Dronau; Hufen Iâ; Chwaraeon gyda Môn Actif; Adeiladu Bocsys i Adar; Gweithgareddau Realiti Rhithwir a'r Gwasanaethau Brys - yr Heddlu a'r Gwasanaeth Tân!