Myfyrwyr Celfyddydau Perfformio yn Dychwelyd i'r Llwyfan!
Mae myfyrwyr celfyddydau perfformio Grŵp Llandrillo Menai yn dathlu ar ddiwedd cyfnod o gyflwyno eu cynhyrchiad llwyddiannus ar lwyfan, am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.
Cyflwynodd myfyrwyr 2021/2022 y ddrama "A Midsummer Night's Dream” yn theatr y coleg o flaen cynulleidfa frwd.
Dyma'r tro cyntaf i'r grŵp hwn o fyfyrwyr gyflwyno darn byw er iddynt ddechrau ar eu cwrs fis Medi 2020, a dyma'r tro cyntaf hefyd ers dwy flynedd i Theatr Alwyn agor ei drysau i'r cyhoedd.
Trefnwyd y cynhyrchiad gan grŵp o dros ugain o fyfyrwyr ail flwyddyn. Rhoddwyd y dasg o greu ymgyrch farchnata ar y cyfryngau cymdeithasol i'r grŵp yn ogystal â rheoli pob agwedd y cynhyrchiad. Oherwydd y pandemig, roedd gofyn i'r tîm lenwi amrywiaeth o asesiadau risg er mwyn diogelu'r cast a'r gynulleidfa.
Dechreuodd myfyrwyr ymarfer ar gyfer y ddrama yn ystod mis Medi, cyn datblygu'r prosiect mewn ymarferion a chyfarfodydd cynhyrchu. Aeth myfyrwyr i'r afael ag amrywiaeth eang o rolau cynhyrchu er mwyn cyflwyno'r sioe orau posib.
Roedd Lawrence Wood, Pennaeth Coleg Llandrillo yno ar y noson agoriadol ac mi wnaeth fwynhau'r sioe'n arw. Aeth yn unswydd i siarad â'r myfyrwyr a'r staff ar ddiwedd y perfformiad er mwyn cyfleu ei falchder a pha mor ddiolchgar oedd o i'r grŵp.
Roedd nifer o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn cynnig cefnogaeth dechnegol, a hynny ar ôl wythnos o baratoi yn unig, a nhw oedd yn gyfrifol am drefnu sain, goleuadau a'r arwyddo.
Dywedodd Kyle Whitfield o Fae Colwyn, oedd yn chwarae rhan Bottom: "Mae dysgu darn gan Shakespeare yn her yn ei hun, yn enwedig ar gyfer sioe gyntaf. Roedd yn gynhyrchiad gwerth chweil ac roedd pawb yn teimlo eu bod wedi cyflawni rhywbeth ar ddiwedd y sioe."
Dywedodd Milly Howard o'r Hen Golwyn oedd yn chwarae rhan Titania: "Roedd yr holl broses yn hawdd iawn, mi ddysgais i lawer am brofiad perfformio ar y llwyfan.
Dywedodd Jon Crowther, Arweinydd Rhaglen - Lefel 3 Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu: Mae'r myfyrwyr wedi profi cyfnod heriol a rhwystredig oherwydd y pandemig, rhoddodd y prosiect rym iddynt ac mi daniodd diddordeb a brwdfrydedd yr holl fyfyrwyr, a rhoi cyfle iddynt fynd i'r afael â rhywbeth o ddifri. Rydym yn falch iawn o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni drwy roi prosiect o'r maint hwn at ei gilydd yn ystod cyfnod anodd iawn."
I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau Celfyddydau Perfformio, ewch i: www.gllm.ac.uk
Neu ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr y coleg ar 01492 542 338.
E-bost: enquiries.llandrillo@gllm.ac.uk