Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyriwr Morol yn Dechrau Cadetiaeth Swyddog y Llynges wedi Prentisiaeth Harbwr

Mae myfyriwr o Fae Colwyn wedi dechau ei gadetiaeth fel Swyddog Peirianneg gyda'r Llynges Fasnachol wedi cyfuno dyletswyddau profiad gwaith yn Harbwr Conwy gyda'i astudiaethau Peirianneg Forol yng Ngholeg Llandrillo.

Mae Freddie Foulkes sy'n 18 oed - a astudiodd fel prentis ar y cwrs Peirianneg Morol Lefel 3 ar gampws Llandrillo-yn-Rhos y coleg - wedi treulio'r 12 mis diwethaf yn gweithio ochr yn ochr a'r Harbwr Feistr a staff yr harbwr.

Pob blwyddyn, mae swyddfa harbwr Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy yn cynnig profiad gwaith ymarferol i nifer fechan o fyfyrwyr sydd wedi eu cofrestru ar gyrsiau Peirianneg Forol Coleg Llandrillo, ynghyd a gwaith tymhorol cyflogedig.

Mae Freddie wedi ennill ystod eang o sgiliau gwerthfawr sydd eu hangen ar gyfer y sector morol, a nawr wedi ymuno â rhengoedd cynfyfyrwyr Peirianneg Coleg Llandrillo sydd wedi mynd ymlaen i yrfaoedd amrywiol a diddorol o gwmpas y byd o fewn y diwydiant morol.

Dywedodd Freddie: "Roedd y profiad a enilli yn Harbwr Conwy yn amhrisiadwy ac fe'm gosodd fi ben ffordd i gyflawni fy uchelgais o gymhwyso fel peiriannydd morol. Roedd pob diwrnod yn gweithio yn yr harbwr yn cynnig her wahanol i mi... gan weithio ymhob tywydd. Y profiad mwyaf cyffrous oedd pan wnaethon ni weithio gyda'r frigâd dan, gan ymladd tan mewn cwch yn yr harbwr."

Meddai'r Harbwr Feistr Mathew Forbes: "Freddie yw'r chweched myfyriwr i ddechrau cadetiaeth Llynges Fasnachol wedi gweithio yn yr harbwr. Rydym yn falch iawn o'i lwyddiant a'n hyfforddeion eraill sydd wedi mynd ymlaen i Yrfâu morol proffesiynol. Mae'r myfyriwr cyntaf a gwblhaodd leoliad nawr wedi cymhwyso fel Trydydd Swyddog. Mae myfyrwyr eraill wedi mynd ymlaen i weithio ar longau pleser, llongau Trinity House yn cynnal a chadw bwiau mordwyo, llongau gosod ceblau, llongau tal a swmpgludwyr. "

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Peiranneg Forol ac Adeiladu Cychod, a phrentisiaethau a gynigir gan y coleg, cysyllter gydag Andy White (Cydlynydd Cwrs) drwy ebost yn marine@gllm.ac.uk

www.gllm.ac.uk