Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyriwr yn rheoli'r Lletygarwch yn Stadiwm Etihad

Mae cyn-fyfyriwr Lletygarwch wedi disgleirio yn ei yrfa fel cogydd ers gadael y coleg.

Mae Dylan Owens yn Brif Gogydd Lletygarwch yn Stadiwm Etihad Clwb Pel-droed Dinas Manceinion, lle mae'n goruchwylio'r 13 bwyty a’r 18 cegin, gyda gweithlu o 122 o gogyddion brwdfrydig a 160 o borthorion cegin egnïol.

Mae'n hanu o Borthmadog yn wreiddiol, ac fe gwblhaodd NVQ Lefel 1, 2 a 3 mewn Coginio a Pharatoi Bwyd yn ogystal ag NVQ Lefel 1 a 2 mewn Gweini Bwyd dros gyfnod o dair blynedd yng Ngholeg Menai. Aeth Dylan ymlaen i weithio ym mwyty'r Chester Grosvenor, sy'n meddu ar seren Michelin, yn fuan ar ôl gorffen yn y coleg, ac yna symudodd i Lundain i ddatblygu ei sgiliau ymhellach.

Bum mlynedd yn ôl dechreuodd yn Stadiwm Etihad fel Prif Gogydd 'The Tunnel Club' yno, bwyty newydd cyffrous yno gydag ansawdd y cynnyrch yn ganolog i bopeth.

Flwyddyn yn ddiweddarach cafodd ei benodi yn Brif Gogydd holl wasanaethau Lletygarwch y stadiwm. Mae dyletswyddau o ddydd i ddydd Dylan yn cynnwys datblygu bwydlenni sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, cynnyrch lleol a sicrhau bod pob bwydlen yn edrych ac yn teimlo fel yr hyn sydd wrth wraidd ethos pob bwyty unigol ar y safle.

Mae coginio i enwogion yn cynnwys rheolwr y clwb pêl-droed, Pep Guardiola, a'r chwaraewyr yn rhan o ddiwrnod gwaith arferol i Dylan hefyd. Bu'n gystadleuydd yn yr Olympics Coginio IKA hefyd, yr arddangosfa fwyaf a hynaf o gelf coginio.

Dywedodd Dylan, "Pan fydd rhywun yn gofyn i mi ydw i o'r farn bod mynd i'r coleg yn werth ei wneud, rydw i yn ac wedi annog cogyddion ifanc i fynd i'r coleg bob tro. Mae coleg yn rhoi seiliau cadarn i ddysgu sgiliau sylfaenol y diwydiant, ac i benderfynu ar eich lle chi yn y diwydiant."

"Fe wnaeth fy nghyfnod yng Ngholeg Menai atgyfnerthu fy niddordeb angerddol mewn coginio, ac rydw i mor ddiolchgar i'r staff wnaeth fy nghefnogi i drwy gydol fy astudiaethau."

Dywedodd Catherine Skipp, Rheolwr Maes Rhaglen y Diwydiannau Gwasanaethu a Busnes yng Ngholeg Menai, "Mae ein hadran Lletygarwch ac Arlwyo yn ymfalchïo mewn hyfforddi ac ysbrydoli cogyddion ifanc i wireddu eu llawn botensial ac i fod mor uchelgeisiol ag y bo modd."

Ychwanegodd, "Rydym ni’n falch iawn o lwyddiant Dylan ac mae'n wych gweld cyn-fyfyriwr yn rhagori yn ei yrfa. Rwy'n gobeithio y bydd ei stori yn ysbrydoli eraill i weithio'n galed a dilyn eu diddordeb."