Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr Coleg yn Serennu mewn Dwy gamp Cadair Olwyn

Yn ddiweddar daeth myfyriwr yn ei arddegau o Goleg Llandrillo sydd yn gwneud ei farc mewn dwy ddisgyblaeth chwaraeon cadair olwyn, yn fuddugol mewn cystadleuaeth dyblau tenis a daeth yn ail mewn achlysur senglau ... yn yr un twrnamaint, yr un diwrnod!

Rhagorodd Alexander Marshall-Wilson o Ddeganwy, sydd yn astudio ar y cwrs Lefel 3 Chwaraeon (Hyfforddi, Datblygu a Ffitrwydd) ar gampws Llandrillo-yn-Rhos y Coleg, yn nwy gystadleuaeth y Lawn Tennis Association (LTA), a gynhaliwyd yn y Bolton Arena yn Swydd Gaerhirfryn.

Ond nid tenis oedd ei gariad cyntaf. Dechreuodd Alex i ddechrau gymryd rhan mewn pêl fasged cadair olwyn yn 2014 drwy ei ffisiotherapydd a oedd mewn cyswllt gyda'r Swyddog Chwaraeon Anabledd ar gyfer Sir Conwy, Mark Richards. Mae Mark hefyd yn hyfforddwr Conwy Thunder - un o bedwar clwb pêl fasged cadair olwyn yng Ngogledd Cymru - a chynigiodd ystod o barachwaraeon i Alex roi cynnig arnynt. Yn y pen draw dewisodd bel fasged cadair olwyn.

Mae Alex wedi cynrychioli Cymru a Phrydain ar lefel iau, ac mae ganddo nawr rôl yn hyfforddi nôl yn Conwy Thunder. Wedi cael ei sefydlu yn 1956, pêl fasged cadair olwyn erbyn hyn yw'r gamp hygyrch fwyaf poblogaidd ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.

Dwy flynedd yn ddiweddarach yn 2016, roedd Alex yn gwylio Wimbledon gyda gweddill ei deulu a sylwodd ar denis cadair olwyn am y tro cyntaf. Ond nid tan ar ôl twrnamaint Wimbledon 2021 y clywodd fod y Lawn Tennis Association yn cynnal diwrnodau blasu ar gyfer tenis cadair olwyn o gwmpas y DU. Mi archebodd le yn syth ar yr un agosaf, ym Mae Colwyn.

Wedi ennill nifer o sgiliau a phriodoleddau corfforol o'i flynyddoedd yn chwarae pêl fasged, roedd chwarae tenis yn "gymharol hawdd" iddo ddysgu. Ddim yn hir wedyn, ymunodd gyda rhaglen ddatblygu wedi ei theilwra a gosododd ei fryd ar gystadlu ar y llwyfan proffesiynol.

Mae Alex yn hyfforddi yn Institute of Sport Coleg Llandrillo pedwar neu bum diwrnod yr wythnos, yn dibynnu ar prun ai a oes ganddo unrhyw gystadlaethau/gemau cynghrair y penwythnos canlynol.

Dywedodd: "Rwyf wrth fy modd gyda chanlyniadau diweddar. Mae cael cefnogaeth gan hyfforddwyr cryfder a chyflyru'r coleg yn fy helpu i godi fy gêm a gwella fy mherfformiad hyd yn oed ymhellach drwy fod â'r potensial i fod yn fwy ffit nag unrhyw wrthwynebwr neu aelod arall o dîm. Mae'n fy helpu i barhau i'r lefel uchel honno o berfformiad am gyfnod hirach o amser.

"Fy nghyngor i fyfyrwyr yn ymuno â'r coleg eleni yw dewis cwrs rydych wir yn ei fwynhau, gweithio'n galed a chael hwyl. Bu fy nhiwtoriaid yn gyfrwng i fy helpu i ennill sgiliau newydd ac rwyf nawr yn edrych ymlaen at astudio Seicoleg Chwaraeon ym Mhrifysgol Worcester. Dwi hefyd wedi cyfarfod ffrindiau newydd sydd wir wedi fy helpu i ymgartrefu fel myfyriwr, ac nid yn unig myfyriwr gydag anabledd."

Ei nod o fewn tenis cadair olwyn yw chwarae rhai o'r chwaraewyr gorau yn y byd, cyrraedd y llwyfan proffesiynol o fewn y flwyddyn nesaf, ac o bosib cystadlu yn y pedair prif gystadleuaeth. O ran pêl fasged cadair olwyn, byddai hefyd yn hoffi cyrraedd statws proffesiynol a chynrychioli Prydain Fawr fel athletwr hŷn. Ei nod hir-dymor yr cyrraedd y gemau Paralympaidd ac ennill medal - "yn ddelfrydol Aur" - ond i gyrraedd y Gemau Paralympaidd yn y naill gamp neu'r llall yw ei darged.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Chwaraeon, neu lefydd yn un o'r academïau chwaraeon yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ffoniwch dîm Gwasanaethau i Ddysgwyr y coleg ar 01492 542 338.

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk

Gwefan: www.gllm.ac.uk