Cyn-Gogydd dan Hyfforddiant o'r Coleg yn Ennill Medal yng ngemau Paralympaidd Tokyo
Cyn-Gogydd dan Hyfforddiant o'r Coleg a marchog brwdfrydig yn dathlu wedi ennill medal yn y gemau Paralympaidd diweddar yn Japan.
Cipiodd Georgia Wilson sy'n 25 oed ac o Abergele, fedal efydd mewn gwres o 36 gradd wedi perfformio'n arbennig ar gefn Sakura saith oed yn y digwyddiad dressage gradd II prawf unigol. Ymunodd gyda'i chyd aelod o'r tîm a'r enillydd medal aur, Lea Pearson, ar bodiwm Tokyo.
Mae ei chyflawniad yn fwy rhyfeddol gan ystyried y ffaith i Georgia dderbyn galwad hwyr i'w gemau Paralympaidd cyntaf i gymryd lle Sophie Christiansen a fu’n bencampwr wyth gwaith, ac nad oedd ei cheffyl yn ddigon ffit i gystadlu.
Daeth Georgia i'r amlwg ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd 2019 lle cipiodd ddwy fedal arian ac un aur yn y gystadleuaeth dull rhydd. Dechreuodd farchogaeth fel plentyn bach gan y cynghorwyd ei mam y byddai yn helpu gyda chydbwysedd Georgia gan ei bod yn dioddef o barlys yr ymennydd.
Yn syth ar ôl gadael yr ysgol berffeithio, astudiodd Georgia Goginio Proffesiynol ar Lefelau 1 a 2 ar Gampws Llandrillo-yn-Rhos Coleg Llandrillo.
Mae ei thiwtor bryd hynny Mike Evans - sy'n cydbwyso ei amser fel tiwtor Lletygarwch ac Arlwyo ar gampws Llandrillo-yn-Rhos gyda'i rôl fel rheolwr tîm Coginio Iau Cenedlaethol Cymru - yn cofio gyda hoffter am amser Georgia yn y coleg: “Rydym ni gyd yn falch iawn o lwyddiant Georgia. Hyd yn oed bryd hynny, roedd yn benderfynol o ddilyn ei breuddwyd yn y byd marchogaeth. Cofiaf hi yn dod ataf ar ddechrau'r cwrs yn dweud ei bod angen pob dydd Gwener yn rhydd i hyfforddi ar gyfer y gemau Paralympaidd...rhywbeth sydd ddim yn digwydd yn aml iawn!
"Oherwydd ei chyfyngiadau corfforol, bu'n rhaid iddi ddod o hyd i ffordd i addasu wrth ddefnyddio cyfarpar cegin. Goresgynnodd bob rhwystr a bu'n llwyddiannus iawn yn y ddau gwrs, oedd yn wych."