Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

PENODI MENTORIAID YM MAES AWTISTIAETH I WELLA'R GEFNOGAETH I FYFYRWYR

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi creu dwy swydd newydd yn ei ymdrechion i annog pob dysgwr i wireddu ei botensial.

Fel rhan o brosiect TRAC 11-24, mae dau Fentor ym maes Awtistiaeth wedi cael eu penodi'n ddiweddar i gefnogi'r dysgwyr hynny sy'n dioddef ag anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd (ASD) i ddatblygu strategaethau i'w helpu i ddelio ag anawsterau sy'n gysylltiedig ag ASD.

Cafodd Elin Jones a Nicola Guy, eu penodi yn Fentoriaid ym maes Awtistiaeth a byddent yn ymuno â thim Anghenion Dysgu Ychwanegol y Grŵp. Bydd Nicola yn gweithio gyda dysgwyr Coleg Llandrillo ac Elin yn gweithio gyda dysgwyr Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor.

Bydd y Mentoriaid yn cynnig sesiynau un-i-un i'r dysgwyr er mwyn:

  • l Deall mwy am eu hanghenion unigol a sut y gellir sicrhau y caiff yr anghenion hyn eu diwallu o ran eu bywyd yn y coleg a'u hastudiaethau.
  • l Meddwl am strategaethau a dulliau ymdopi sy'n galluogi myfyrwyr i oresgyn rhwystrau i ddysgu a rheoli eu hastudiaethau'n llwyddiannus ac yn annibynnol.
  • l Llunio strategaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a fydd yn eu helpu o ran rheoli amser a threfn.
  • l Sefydlu arferion sy'n hyrwyddo lles cadarnhaol.
  • l Canfod strategaethau effeithiol sy'n hwyluso cyfathrebu cadarnhaol.
  • l Cyfeirio at wasanaethau eraill i gynnig cefnogaeth os oes angen.

Mae gan Nicola brofiad o weithio gyda dysgwyr sydd ag ASD, fel tiwtor ac fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu. Mae hi hefyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda dysgwyr sy'n arddangos ymddygiadau heriol neu agweddau pryderus i lunio strategaethau i'w helpu i reoli'r teimladau hynny.

Mae gan Elin radd israddedig mewn Seicoleg a gradd meistr ym maes Dadansoddiad Ymddygiadol Cymhwysol. Aeth ar leoliad i ysgol anghenion arbennig cyn mynd ymlaen i weithio ar sail un-i-un gyda disgybl gydag awtistiaeth gweithredu lefel uchel mewn ysgol gynradd prif ffrwd.

Dywedodd Samantha Mcilovgue, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Ddysgwyr,

"Mae hyn yn ddatblygiad cyffrous ac yn gyfle i gynnig cymorth ychwanegol i'n dysgwyr. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Nicola ac Elin ac yn dymuno'n dda i'r ddwy ohonyn nhw yn eu swyddi newydd!"

Dywedodd Sharon O'Connor, Rheolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Ngrŵp Llandrillo Menai:

Mae oddeutu 700,000 o bobl wedi derbyn diagnosis o awtistiaeth ym Mhrydain ac mae gwaith ymchwil yn dangos yr angen arbennig i gefnogi trosglwyddiad dysgwyr sydd ag awtistiaeth mewn modd cymhwysol yn ogystal â diwallu eu hanghenion a'u dyheadau addysgol ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi gweithio'n agos gyda phobl ifanc a'u teuluoedd yn y gorffennol a bydd Nicola ac Elin yn siwr o wella ac ychwanegu at y cymorth ychwanegol sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai."

Mae TRAC 11-24 yn brosiect rhanbarthol a arweinir gan Gyngor Sir Dinbych mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam, Grŵp Llandrillo Menai, Coleg Cambria a Gyrfaoedd Cymru.

Mae TRAC 11-24 yn brosiect a ariennir gan yr UE a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.