Dathlu Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor
Heddiw dathlwyd 20 mlynedd o Ddiwrnod Ieithoedd Ewropeaidd yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli. Croesawyd staff a myfyrwyr gan faneri sy’n cynrychioli 47 Aelod-wladwriaeth Cyngor Ewrop i’r coleg.
Nod Diwrnod Ieithoedd Ewrop yw “codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd dysgu iaith er mwyn cynyddu amlieithrwydd a dealltwriaeth ryngddiwylliannol; hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol cyfoethog Ewrop, ac annog dysgu iaith gydol oes yn yr ysgol a thu hwnt. ”
Ar hyn o bryd, mae tua 225 o ieithoedd brodorol yn cael eu siarad ledled Ewrop. Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Ewrop, Marija Pejčinović Burić, heddiw, “Mae Diwrnod Ieithoedd Ewrop yn ein hatgoffa bod pob llais yn bwysig ac y gallwn gyda'n gilydd oresgyn rhaniadau ieithyddol a diwylliannol yn ein cymdeithas."
Dywedodd Helen McFarlan Darlithydd Ieithoedd Modern yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, campws Pwllheli -
"Heddiw cafwyd dathliad gyda myfyrwyr Ffrangeg ac Almaeneg Lefel A gyda wafflau Gwlad Belg a croissants Ffrenigig, ac yna her iaith a chwis rhyngweithiol i ddyfnhau eu dealltwriaeth o bwysigrwydd ieithoedd rhanbarthol byd-eang.”