Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfansoddiadau Cyn-fyfyriwr yn Cael eu Ffrydio 125 Miliwn Gwaith ar Spotify

Mae cyn-fyfyriwr o'r cwrs Technoleg Cerddoriaeth yng Ngholeg Menai yn ei seithfed nef ar ôl i'w gyfansoddiadau cerddorol gael eu ffrydio fwy na 125 miliwn o weithiau ar Spotify!

Mae Alex Stephens, sy'n hanu o Gaernarfon, hefyd yn defnyddio'r enw 'Strawberry Guy'. Cafodd un 'symffoni hi-fi', fel y mae'n galw ei draciau, effaith arbennig ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gael 83 miliwn ffrwd ar TikTok yn unig!

Ar ôl cwblhau ei astudiaethau Lefel 3 yn y coleg, cafodd le yn yr Institute of Performing Arts yn Lerpwl.

Bydd Alex yn brysur yn teithio yn 2022: bydd yn perfformio mewn cyngherddau amlwg yng Nghaliffornia cyn dychwelyd i’w famwlad i chwarae yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd yr haf hwn.

Disgrifia Alex ei hun fel 'argraffiadydd un-dyn, sy'n paentio seinweddau mawreddog, gan gyfuno geiriau gonest gyda threfniannau lysh er mwyn creu bydau newydd sy'n cyffroi'. Caiff ei ysbrydoli gan gyfansoddwyr o'r cyfnod Rhamantaidd, yn ogystal â Debussy, Ravel, a chyfansoddwyr clasurol eraill o'r 1800au.

Dywedodd: "Mae fy uwchlwythiadau diniwed o 'Without You' ac 'F-Song' yn dod â chysur i dros ddwy filiwn o wrandawyr Spotify bob mis. Mae ‘Mrs Magic’ wedi'i ffrydio 30 miliwn o weithiau hyd yn hyn, gan ddod yn rhif 13 yn y siart, ac mae fy nilynwyr wedi creu fideos di-rif a'u rhoi ar YouTube."


www.gllm.ac.uk