Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwneuthurwr o Rhuallt yn Gwireddu Potensial diolch i Bartneriaeth gyda Grŵp Llandrillo Menai

Mae gwneuthurwr carafanau moethus The Fifth Wheel Company (Fifth Wheel Co.) wedi gallu codi capasiti, cynhyrchu mwy a gwneud mwy o elw yn ogystal â chreu diwylliant o gydweithio ac arloesi o ganlyniad i weithio mewn partneriaeth â Busnes@LlandrilloMenai, cangen busnes Grŵp Llandrillo Menai.

Mae Busnes@LlandrilloMenai'n gweithio gyda chwmnïau a gweithwyr proffesiynol ledled Gogledd Cymru i gynnig amrywiaeth eang o hyfforddiant arbenigol, cyrsiau wedi'u hachredu a chyrsiau dysgu seiliedig ar waith.

Cydweithiodd y cwmni gyda Grŵp Llandrillo Menai ac Ymgynghorydd KTP, Charlie Small drwy'r Rhaglen Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) i roi prosesau gweithgynhyrchu digidol newydd ar waith a chyflwyno uwch ddeunyddiau cyfansawdd i gynhyrchion unigryw'r cwmni.

Yn sgil y rhaglen KTP mae Fifth Wheel Co. wedi gallu cyflwyno prosesau gweithgynhyrchu digidol newydd sy'n caniatáu mynediad amser real i wybodaeth allweddol, a gwnaed newidiadau radical i'r llif gwaith. Mae helpu Fifth Wheel i gynyddu ei gapasiti cynhyrchu 50% gyda chynnydd o thua 1.3M mewn trosiant, yn golygu bod y prosiect hefyd wedi effeithio ar allu'r cwmni i weithgynhyrchu mwy o'i adrannau yn fewnol ac o ganlyniad mae hyn wedi ychwanegu gwerth i'r busnes.

Dywedodd Charlie Small, Ymgynghorydd KTP: "Daeth trydydd parti â safbwynt newydd i broses cynhyrchu Fifth Wheel Co. a'i ffordd o feddwl. Nid yw'n dibynnu ar gyflenwyr trydydd parti erbyn hyn ac mae wedi cynyddu ei allu mewnol yn aruthrol. Mae yna lefel newydd o ffydd, hyder ac annibyniaeth yn llifo drwy'r busnes. Mae ymchwil a datblygiad yn rhan o fywyd bob dydd bellach, ac mae pawb yn gweithio'n galed i wneud pethau'n well. Roedd y prosiect yn help i ddangos yr hyn a oedd yn bosib a newid penderfyniadau'r galon a'r meddwl."

Dywedodd Gareth Hughes, Rheolwr Canolfan CIST ac Arloesedd, Grŵp Llandrillo Menai: "Mae'r Prosiect KTP gyda Fifth Wheel wedi bod yn brosiect heriol iawn ar lefel dechnegol ac wedi arwain at ganlyniadau ardderchog i'r coleg ac i'r cwmni."

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru: "Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn cynnig datrysiadau i broblemau anodd yn y diwydiant ac mae'r enghraifft hon yn cydnabod eu gallu i ddatrys problemau a chael effaith go iawn ar fusnes. Yng Nghymru, mae diwydiannau a'r byd academaidd yn parhau i gydweithio mewn modd cadarnhaol er budd y cenedlaethau i ddod a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi hynny."

Mwy o wybodaeth: https://www.madesmarter.uk/med...