Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyriwr o Goleg Menai cydweithio â chogydd o fri

Mae cyn-fyfyriwr o adran Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Menai bellach yn gweithio fel uwch diwtor yn Ysgol Goginio Raymond Blanc a hefyd yn gogydd datblygu yn nhŷ bwyta'r cogydd byd enwog yn Rhydychen.

Dechreuodd Michael John, 34 oed, ac sy'n dod yn wreiddiol o Borthmadog, ei yrfa ar gampws y coleg ym Mangor. Treuliodd dair blynedd yno dan hyfforddiant gan gwblhau cymwysterau NVQ lefel 1 - 3. Yn ystod ei gyfnod yn y coleg roedd hefyd yn gweithio'n rhan amser mewn bwyty teuluol yng Nghricieth o'r enw Poachers.

Trwy Goleg Menai cafodd y cyfle gwych i ddangos ei sgiliau yng ngwesty byd enwog Raymond Blanc, Le Manoir aux Quat'Saisons yn Rhydychen, sydd wedi cadw ei statws dwy seren Michelin am 38 o flynyddoedd a ble mae Raymond wedi hyfforddi dros 40 o gogyddion gorau'r wlad. Gwnaeth Michael cymaint o argraff arnynt nes iddynt gynnig swydd barhaol iddo!

Eglurodd Michael, cyn-ddisgybl o Ysgol Eifionydd, ymhellach: "Rydw i wedi bod yn Manoir am y 15 mlynedd ddiwethaf gan dreulio dwy flynedd yn yr ysgol goginio yn cynorthwyo Raymond Blac gyda'r cyrsiau coginio, digwyddiadau arddangos a rhaglenni teledu cyn symud ymlaen i'r gegin dwy seren Michelin. Treuliais dros chwe blynedd yn y gegin, cyn mynd yn ôl i ysgol goginio Raymond Blanc fel y Prif Diwtor. Ar hyn o bryd, rydw i'n gweithio un diwrnod yr wythnos fel Cogydd Datblygu i Raymond Blac yn y bwyty.

Siaradodd Michael ychydig am ei lwyddiant cynnar mewn cystadlaethau yn ystod ei gyfnod yn y coleg a dyddiau cynnar ei yrfa. "Roeddwn i'n ffodus iawn y cefais gyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau amrywiol yn ystod fy nghyfnod yng Ngholeg Menai," meddai Michael. Er enghraifft, roeddwn i'n ymgeisydd yn rhaglen Chez Dudley ar S4C (rhaglen Gymraeg tebyg i 'Masterchef') lle'r oeddwn i'n ddigon lwcus i gyrraedd rownd yr 8 olaf a mynd i dde Ffrainc am 10 diwrnod i gystadlu yn y rownd derfynol!

Cefais gyfle hefyd i fynd i Florence ac Angers yn Ffrainc, lle bûm i'n aros efo teulu a gweithio mewn melin wynt wedi'i throi'n fwyty. Gwnaeth y cyfle a'r profiad yma roi cipolwg hynod werthfawr i mi ar fywyd cegin a'r diwylliannau.

Treuliais un haf yn nhafarn Pen y Bryn ym Mae Colwyn hefyd, a deufis yng ngwesty'r Grosvenor yng Nghaer sy'n meddu ar un seren Michelin. Gwnaeth hyn helpu efo ochr ymarferol coginio a chefais brofiad gwerthfawr a gweld yr hyn sydd gan y diwydiant lletygarwch i'w gynnig. O ganlyniad i'r cyfuniad o gyfleoedd anhygoel hyn mi agorwyd fy llygaid i'r cyfleodd gwych sydd ar gael yn y diwydiant lletygarwch."

Mae Michael wedi dychwelyd i Goleg Menai ar sawl achlysur, "er mwyn ceisio rhoi rhywbeth yn ôl ac ysbrydoli cogyddion y dyfodol".

Ychwanegodd: "Y cyngor gorau i unrhyw fyfyriwr sydd eisiau bod yn gogydd fyddai i ddefnyddio eu hamser sbâr yn ystod eu cyfnod yn y coleg i weithio mewn sefydliadau amrywiol, er mwyn canfod pa fath o ddull arlwyo'r hoffent arbenigo ynddo. Dylent fod yn barod i ddarllen cymaint â phosib am y diwydiant, ac yn olaf, dylent fod yn barod i weithio'n galed iawn, iawn."


For more information about courses starting in September at Coleg Menai, visit www.gllm.ac.uk