Gallai dewis gyrfa ym maes chwaraeon antur awyr agored arwain at yr antur orau un!
Mae tirwedd drawiadol Gogledd Cymru yn amgylchedd perffaith i gynnig addysg arbenigol a chyfleoedd unigryw i bobl ennill cyflog, byw a dysgu mewn tirlun hardd a naturiol.
Mae sector twristiaeth awyr agored Gogledd Cymru yn tyfu ac mae cyflogwyr blaenllaw yn dewis buddsoddi mewn talent ifanc a'u datblygu i lenwi swyddi gwag yn y sector. Mae gyrfaoedd yn y sector antur awyr agored yng Ngogledd Cymru yn cynnig cyfleoedd cyffrous i sicrhau cyflogaeth tymor hir gyda'r fantais ychwanegol o ddysgu mwy am y secor.
Mae nifer o arbenigwyr cyffrous Gogledd Cymru yn awyddus i rannu eu profiadau ym maes chwaraeon antur awyr agored i ysgogi pobl i fynd amdani a gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael i sicrhau gyrfa gyffrous ac amrywiol.
Ers sefydlu'r Bartneriaeth Awyr Agored 17 mlynedd yn ôl mae Tracey Evans, Prif Weithredwr y Bartneriaeth, wedi gweld mwy a mwy o bobl ifanc yn ennyn diddordeb, yn gwirfoddoli ac yn gweithio yn y sector gweithgareddau awyr agored. Dywedodd Tracey bod 'mwy o gyfleoedd ar gael yn y sector gweithgareddau awyr agored heddiw nag erioed o’r blaen a does unman gwell na Gogledd Cymru i ddysgu a gweithio'.
Cychwynnodd diddordeb Mark Jones sy'n Rheolwr Rhaglen y Bartneriaeth Awyr Agored ym maes chwaraeon antur awyr agored wedi iddo wirfoddoli mewn canolfannau addysg awyr agored yng Ngwynedd. Yna, aeth yn ei flaen i hyfforddi ymhellach drwy astudio Gradd Sylfaen mewn Anturiaethau Awyr Agored yng Ngholeg Menai Bangor.
Cychwynnodd Drew Hollins Roberts weithio yn Zip World fel hyfforddwr awyr agored yn 2015. Erbyn hyn mae Drew yn cydlynu gwaith recriwtio a hyfforddi Zip World yn y brif swyddfa. Astudiodd Drew gwrs chwaraeon awyr agored yng Ngholeg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos cyn mynd ymlaen i ennill gradd. Meddai: 'Dw i wedi dod o hyd i amrywiaeth eang o swyddi y gallwch eu gwneud yn y sector hwn yn ogystal â chyfleoedd gwych i feithrin sgiliau newydd. Nid dim ond swyddi yn ystod tymor y gwyliau, ond gyrfaoedd tymor hir."
Hyfforddwr gweithgareddau awyr agored yng Nglan-llyn yw Glesni Jones a fu'n astudio cwrs addysg awyr agored ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau. Yng Nglan-llyn mae elfen ychwanegol o allu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a rhannu gwybodaeth am yr iaith Gymraeg, ei diwylliant a'i hanes.
Mae Glan-llyn yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu gyrfaoedd drwy ei bartneriaeth addysgol gyda Grŵp Llandrillo Menai. Mae’r ganolfan yn cynnig addysg a hyfforddiant ochr yn ochr â gwaith cyflogedig ym maes antur awyr agored. Mae hyn yn cynnig profiadau a chyfleoedd gwerthfawr i allu ennyn cymwysterau hyd at lefel gradd gan herio dysgwyr i roi'r gwaith theori maen nhw wedi'i ddysgu yn y coleg ar waith wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol yng Nghlan-llyn.
Nicole Ramsden yw Rheolwr AD a Hyfforddiant Parc Antur Eryri, sy'n gartref i lagŵn syrffio cyntaf y byd ar y tir yn ogystal â nifer o weithgareddau antur awyr agored eraill... Meddai: “Mae'n gyfle i chi gyfarfod â chymaint o wahanol bobl o bob lliw a llun ac mae'r swyddi hyn hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu sgiliau a magu hyder i weithio ledled y byd."
Os ydych chi'n barod am yrfa tymor hir cyffrous ym maes chwaraeon antur awyr agored anfonwch e-bost i generalenquiries@gllm.ac.uk am gyngor ac arweiniad ar sut i fynd ati i ddechrau hyfforddi a chychwyn ar un o anturiaethau mwyaf eich bywyd.