Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Busnes a hinsawdd yn elwa o’r Academi Ddigidol Werdd

Gyda phwyslais cynyddol ar leihau carbon, mae busnesau bach yng Ngwynedd a Môn yn derbyn cefnogaeth ar eu taith i ddyfodol sero net, diolch i’r Academi Ddigidol Werdd a lansiwyd yn ddiweddar.

Mae’r prosiect, sy’n cael ei redeg gan Busnes@LlandrilloMenai yn cynnig mentora arbenigol a chymorth i helpu busnesau bach i ymdopi a lleihau eu ôl-troed carbon. Wedi ei ariannu gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU, mae’r Academi Ddigidol Werdd wedi gweithio’n agos gyda chwmnïau ar draws y rhanbarth, gan roi cynlluniau yn eu lle i leihau eu heffaith ar yr hinsawdd.

Un o’r rhai cyntaf i gofrestru oedd Mona Lifting, cwmni o Langefni. Wedi ei sefydlu yn 2005, roedd y cwmni peirianneg eisiau gwneud datgarboneiddio yn flaenoriaeth, fel yr eglura Gethin Jones y Cyfarwyddwr Gweithredu: “Mae ein gwerthoedd wrth galon pob dim rydyn ni’n ei wneud, ac mae cyfrifoldeb tuag at ein staff a chyfrannu at ein cymuned leol yn rhan bwysig o hyn. Y dyddiau yma, yn fwy nag erioed mae bod yn gyfrifol hefyd yn golygu chwarae’n rhan wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.

“Y targed i ni yn Mona Lifting ydi parhau’n hyfyw yn fasnachol tra’n lleihau allyriadau carbon. Roedd ein ymgynghorydd Academi Ddigidol Werdd yn deall hyn yn iawn. Ac wrth wneud gwerthusiad o’n gwaith fe helpodd o ni i ddysgu pa rannau o’r busnes sydd angen i ni edrych arnynt i gyrraedd sero net. Mae’r gefnogaeth wedi’n galluogi ni i ganolbwyntio ar ddarparu ar gyfer ein cwsmeriaid gan wybod fod arbenigwyr yn edrych ar sut y gallwn leihau ôl-troed carbon.”

Mae Busnes@LlandrilloMenai yn rhan o Grŵp Llandrillo Menai, ac yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth sydd wedi ei dargedu’n benodol at fusnesau. Trwy’r prosiect hwn y nod yw helpu perchnogion busnes i ddeall sero net ac i gymryd camau i ateb y galw cynyddol am gynnyrch a gwasanaethau ecogyfeillgar. Y gobaith ydy y bydd yr Academi Ddigidol Werdd hefyd yn arwain at gynnydd mewn elw i fusnesau trwy leihau costau cynhyrchu a gwella effeithlonrwydd.

Julie Stokes Jones yw Swyddog Datblygu Busnes y Prosiect. Dywedodd: “Rydym yn awyddus i weithio gyda busnesau bach yn ein dalgylch i’w cefnogi nhw i gyrraedd targedau sero net. Rydym yn deall bod hyn yn gallu bod yn her ac mae gwybod ble i ddechrau yn aml yn anodd. Gyda’n cefnogaeth, gall busnesau gael mynediad at gyngor arbenigol a chyllid i’w rhoi nhw ar y trywydd iawn.

“Mae diddordeb gwirioneddol wedi bod yn y prosiect yn barod – ond mae ychydig o le yn dal i fod ar ôl. Rydw i yn annog unrhyw fusnes sy’n dymuno ymuno i gysylltu â ni cyn gynted â phosib fel y gallwn eu helpu nhw i leihau carbon mewn ffordd sydd o fudd i’w busnes a’r amgylchedd.”

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU. Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Nod hwn yw cefnogi pobl a chymunedau sydd fwyaf mewn angen ledled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredinol y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lleoedd, busnes lleol, a chefnogi pobl i mewn i gyflogaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i
www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewal-fund-prospectus