Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai yn derbyn tystysgrif Ymwybyddiaeth am Awtistiaeth

Mae Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol Grŵp Llandrillo Menai (GLLM) wedi derbyn tystysgrif gan Awtistiaeth Cymru am ddarparu cefnogaeth i fyfyrwyr.

Nod y cynllun Ymwybyddiaeth am Awtistiaeth yw cynyddu dealltwriaeth yn ymwneud ag anhwylderau'r spectrwm awtistaidd, a rhestrir sefydliadau sydd wedi cwblhau'r cynllun ar gyfeiriadur Awtistiaeth Cymru.

Mae nifer o fyfyrwyr awtistaidd yn mynychu Grŵp Llandrillo Menai, ac mae angen cynyddol am gefnogaeth wedi'i theilwra. Mae mesurau fel Mentoriaid Anhwylderau'r Spectrwm Awtistaidd, mannau tawel, yn cynnwys podiau arbennig, a rhaglenni hyfforddi wedi cael eu sefydlu er mwyn creu amgylchedd dysgu addas ar gyfer myfyrwyr awtistaidd ar gampysau'r coleg.

Mae'r mesurau hyn yn rhan o wasanaethau lles y Grŵp, a gafodd eu graddio'n 'ardderchog' gan Estyn ac sydd wedi derbyn buddsoddiad sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Meddai James Nelson, Uwch Gyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd Grŵp Llandrillo Menai: "Mae lles ein myfyrwyr a'n staff yn flaenoriaeth bwysig i ni. Mae gan bob unigolyn anghenion gwahanol a phenodol ac felly mae cynnig cefnogaeth wedi'i phersonoli yn allweddol.

"Yn sgil cyflwyno'r Mentoriaid a gwneud newidiadau i amgylchedd y coleg, rydym wedi gweld cynnydd mawr o ran sut mae myfyrywyr awtistaidd yn ymwneud â'u cyrsiau a'u profiad dysgu."

Mae'r Grŵp yn awr yn anelu tuag at ennill ardystiad Ymwybyddiaeth am Awtistiaeth ar gyfer yr holl sefydliad. Ychwanegodd James: "Rydym yn arbennig o falch, yn enwedig a hithau'n Wythnos Derbyn Ymwybyddiaeth y Byd, o dderbyn y dystysgrif Awtistiaeth Cymru ar gyfer ein gwasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol.

"Rydyn ni'n awr yn gweithio tuag at gael yr un gydnabyddiaeth ar draws y Grŵp, fel ein bod yn parhau i sicrhau bod pob elfen ar fywyd y coleg yn caniatáu i fyfyrwyr awtistaidd ffynnu a chyflawni eu llawn botensial."

Stori Niamh

Mae Niamh ar hyn o bryd yn dilyn cwrs Lefel 1 mewn Gwefannau, Gemau a Chyfryngau ar gampws GLLM yn Llandrillo-yn-Rhos. Mae'n fyfyrwraig awtistaidd sy'n disgrifio ei hun fel person hapus a charedig, egnïol a direidus. Mae'n adnabyddus am ei hiwmor arbennig a'r cyfoeth o wybodaeth.

Ond fe all Niamh deimlo'n orbryderus ar adegau ac mae'n hoffi strwythur a threfn i'w diwrnod. Mae o gymorth mawr iddi os yw'n cael gwybod ymlaen llaw am newidiadau i'r drefn neu bynciau newydd fel y gall baratoi ar gyfer newid. Mae'n peri pryder sylweddol iddi os yw gwybodaeth yn aneglur.

Meddai Niamh: "Roedd y coleg fel rhyw fyd newydd hollol estron ar y cychwyn. Er mod i'n edrych ymlaen, ro'n i hefyd yn bryderus wrth feddwl sut le fyddai'r coleg ac a fyddai ganddyn nhw gefnogaeth i bobl fel fi.

“Roedd y dyddiau cyntaf yn heriol i mi, yn ceisio addasu i'r system newydd ac yn teimlo panig trwy'r adeg. Yn ffodus, mi ge's i siom ar yr ochr orau o ddysgu fod cefnogaeth i bobl fel fi yn bodoli yn y coleg.”

Mae Niamh yn cwrdd â'i Mentor Awtistiaeth yn rheolaidd i drafod unrhyw bryderon sydd ganddi ac i gael cefnogaeth i'w goresgyn. Pan mae hi'n teimlo'n orbryderus, mae Niamh yn defnyddio Pod yn y coleg sydd wedi'i gynllunio'n arbennig i leddfu pryderon myfyrwyr. Mae hyn yn ei helpu i ymdawelu fel ei bod yn teimlo'n fwy cyfforddus i drafod. Trwy'r gefnogaeth sydd ar gael iddi ac addasiadau i'w hamgylchedd dysgu, mae'n gallu chwarae mwy o ran yn ei hastudiaethau.

Ychwanegodd Niamh: “Mae'r mentoriaid yn gyfeillgar, a dwi'n teimlo y gallaf rannu fy rhwystredigaethau pan mae pethau'n teimlo'n ormod. Maen nhw wedi fy helpu i ddod i arfer â bywyd coleg, ac wedi fy helpu i godi'n ôl ar fy nhraed pan oeddwn i'n teimlo mod i'n syrthio.

“Erbyn hyn, dwi'n gallu ymdopi â bron pob elfen ar fywyd coleg; pethau fel mynd i'r dosbarth heb unrhyw arweiniad neu fynd i'r caffi ar ddydd Gwener i gael cinio ac ati. Yn syml, dwi ar lwybr mwy cadarn ddim yn unig ar gyfer cyflawni fy mreuddwyd o fod yn ddatblygwr gemau, ond hefyd ar gyfer datblygu mwy o annibynniaeth yn gyffredinol."

www.gllm.ac.uk

The Autism Aware scheme is aimed at increasing awareness and understanding of autism, and certified organisations are recognised in the Autism Wales directory.

Grŵp Llandrillo Menai has a number of autistic learners, with an increasing need for bespoke support. Initatives such as Autistic Spectrum Disorders (ASD) Mentors, quiet safe spaces, including designated Pods, and whole organisation training programmes have been put in place to help create autism friendly environments for students at the college campuses.

These initiatives are part of the Grŵp's extensive wellbeing support and services, rated as 'excellent' by Estyn, which have had significant investment over the past few years.

James Nelson, Executive Director for Academic Services at Grŵp Llandrillo Menai said: "The wellbeing of all our learners and staff is a major priority for us. Each individual has different and specific needs and so offering personalised support is extremely important.

"Through the introduction of our ASD Mentors and changes to the college environment, we have seen a considerable improvement in engagement and progress made among autistic learners."

The Grŵp is now aiming to achieve the Autism Aware certification for the whole organisation. James added: "We are particularly glad, especially given that it's the World Autism Acceptance Week, to have been awarded the Autism Wales certificate for our Additional Learning Needs services.

"We're now working towards gaining the same recognition across the Grŵp, so that we continue to make sure that every aspect of college life allows our autistic learners to thrive and achieve their full potential."

Niamh's story

Niamh is currently studying Level 1 Web, Games and Media at the GLLM Rhos-on-Sea campus. She is an autistic student who describes herself as cheerful and kind-hearted, hyperactive and mischievous, best known for her silly, yet loveable humour and incredible knowledge present within her mind.

Niamh can, however, become quite anxious at times and prefers structure and routine to her day. Advance notice of changes in routine or new topics can support her to prepare for the coming change. Niamh can become upset and stressed if information is unclear.

Niamh said: "College was like a freaky new world at first. I was both excited and supremely anxious as I wracked my brain wondering what the place was going to be like and did they have support for people like me?

“The first few days were frantic for me, trying to get adapted to this new system and panicking every time. Luckily, I was pleasantly surprised to hear that support for people like me did indeed exist in this college.”

Niamh regularly meets with her ASD Mentor to talk about any concerns she may have and receive support. When conversations lead towards heightened anxiety, Niamh uses a seating Pod at the college, designed specifically for when students become overwhelmed or anxious. This helps her return to a state of calm which makes her more open to discussions her studies. Through this support and adjustments to her learning environment she is now much more engaged in her learning.

Niamh added: “The mentors are friendly, I felt like I could vent my frustrations when I felt too overwhelmed. They helped me get better accustomed to college life, and helped me get back up when I felt as though I was falling down.

“Now, almost all elements of college life is something I can be accustomed to; things like getting to my class without any guidance or heading to the cafe on Friday for a school dinner and more. I can basically handle myself as a stronger path for not only my future dreams as a game developer, but also as a growing step for my independent willpower starts to build itself up! "

www.gllm.ac.uk