Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yr Adran Adeiladu yn ymweld â Pharc Bodafon

Cafodd dysgwyr Coleg Llandrillo brofiad o sut beth yw bod ar safle go iawn pan wnaethon nhw ymweld â datblygiad Anwyl Homes yn Llandudno

Cafodd myfyrwyr Coleg Llandrillo gyfle i ymweld â datblygiad newydd Anwyl yn Llandudno i weld sut mae safle adeiladu prysur yn gweithredu.

Aeth tua 30 o hyfforddeion i ymweld â Pharc Bodafon. Cawsant gyfle i gyfarfod ag aelodau o dîm Anwyl, gan gynnwys Bleddyn Jones y rheolwr safle, John Wilson y rheolwr adeiladu ardal, a Lewis Moroney y cynghorydd ar iechyd a diogelwch.

Mae mwyafrif y myfyrwyr yn astudio tuag at eu BTEC Lefel 3 mewn Rheoli Adeiladu. Mae'r cwrs dwy flynedd yn paratoi cyfranogwyr ar gyfer gyrfa broffesiynol o fewn yr amgylchedd adeiladu, ac mae llawer yn mynd ymlaen i weithio ym meysydd pensaernïaeth, peirianneg sifil ac adeiladu tai.

Mae eraill ar Radd Sylfaen Lefel 5 mewn Rheoli Adeiladu, sy'n darparu hyfforddiant academaidd ac ymarferol i bobl sy'n cael eu cyflogi mewn amrywiaeth o swyddi adeiladu technegol, gan wella eu cyfleoedd i ddringo'r ysgol yn eu gyrfa.

Dywedodd Colin James-Davies, darlithydd Rheoli Adeiladu: “Aeth y ddau ymweliad safle yn arbennig o dda. Roedd yn wych i’r myfyrwyr weld sut mae safle gwaith yn gweithredu a gweld cymaint o’r hyn oedd yn digwydd.

“Doedd rhai o’r myfyrwyr erioed wedi bod ar safle o’r blaen felly roedd yn gyfle perffaith iddynt gael teimlad go iawn o fod ar y safle; yr olygfa, y sŵn, a theimlo pa mor oer y gall fod.

“Roedd tîm Anwyl yn wych, a hoffem ddiolch iddyn nhw am ein croesawu. Cawsom gyflwyniad ar iechyd a diogelwch gan Lewis ac esboniodd John bopeth oedd yn digwydd ar y safle, ac atebodd lawer o gwestiynau gan y myfyrwyr trwy gydol yr ymweliad hefyd.”

Mae Anwyl yn adeiladu 49 o gartrefi, gan gynnwys 17 o dai fforddiadwy, ar y safle pedair erw oddi ar Ffordd Nant-y-Gamar. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Mai a bydd y cartrefi cyntaf yn barod i symud i mewn iddynt yn gynnar yn 2024.

Bydd llawer o’r cartrefi newydd ym Mharc Bodafon yn meddu ar olygfeydd dros yr arfordir a thuag at Drwyn y Fuwch, ac mae rhai o’r cynlluniau wedi’u teilwra’n arbennig i’r lleoliad, gyda ffenestri mawr a balconïau i wneud y mwyaf o’r olygfa. Mae cynlluniau o'r safle, a chynlluniau ar gyfer mathau unigol o dai ar gael i'w gweld yn y ganolfan werthu sydd ar y safle.

Dywedodd John Wilson, rheolwr adeiladu Anwyl: “Fe wnaethon ni fwynhau croesawu’r myfyrwyr o Goleg Llandrillo. Roedd yn wych cael cymaint ohonynt yn gofyn cwestiynau ac yn awyddus i ddysgu mwy am y prosesau a’r gweithdrefnau sy’n digwydd ar safle adeiladu tai prysur.

“Mae hwn yn safle hynod gyffrous ac edrychwn ymlaen at eu croesawu’n ôl ar ymweliad arall yn fuan, fel y gallant weld cynnydd ein gwaith yma, a gobeithio gweld rhai o’r cartrefi wedi eu cwblhau.”

Am ragor o wybodaeth am y cartrefi ym Mharc Bodafon ewch i anwyl.co.uk/parcbodafon.

Diddordeb mewn astudio Adeiladwaith yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.