Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Rhaglen arbennig am DJ Terry - Seren y Dyfodol

Mae myfyriwr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, sydd wedi gwirioni ar gerddoriaeth, un cam yn nes at wireddu ei freuddwyd o fod yn DJ o'r radd uchaf.

Mae Terry Tuffrey, 22 oed yn byw yn Cae Clyd, Blaenau Ffestiniog. Dilynodd gwrs Sgiliau Byw'n Annibynnol yn y coleg ac mae wedi wynebu sawl her yn ystod ei fywyd, ond bellach mae'n anelu'n uwch nag erioed.

Dros gyfnod o chwe mis, dilynodd criw ffilmio o gwmni cynhyrchu 'Cwmni Da' hynt a helynt Terry wrth iddo gwblhau ei gwrs coleg, cyflwyno o lwyfan gwŷl enwog a chyd-gyflwyno sioe boblogaidd ar Radio Cymru.

Bydd rhaglen ddogfen yn cofnodi'r cyfnod, Drych: DJ Terry i'w gweld ar S4C, dydd Sul 23 Ebrill am 9pm. ⁠

Cafodd Terry ei ffilmio yn holi, Ed Holden - sef Mr Phormula, y rapiwr adnabyddus a'r arbenigwr ym maes bît bocsio, oedd yn cynnal gweithdy ar gampws y coleg yn Nolgellau. Roedd Mr Phormula yn fwy na bodlon i gynnig cyfle i Terry ymarfer ei sgiliau cyfweld.

Gofynnodd y cerddor a'r bardd o Ynys Môn i Terry gyflwyno ei set ar lwyfan Sesiwn Fawr Dolgellau, ac mi wnaeth hynny'n gwbl ddiffwdan.

Cysylltodd Terry â'r BBC hefyd i ofyn am gyfle i gysgodi cyflwynydd fel profiad gwaith, a chafodd ei wahodd i ymuno ag Ifan Jones Evans yn y stiwdio ym Mangor.

Treuliodd Terry dair awr yn y stiwdio yn cynorthwyo Ifan gyda'r gwaith o gyflwyno ei raglen fyw, yn darllen negeseuon gan wrandawyr a chyflwyno caneuon yn siriol.

Dywedodd Ifan, "Roedd yn bleser cael Terry ar y rhaglen. Roedd o'n berffaith, spot on!

Mae gyrfa ddisglair o'i flaen, mae'n gymeriad hoffus sy'n gallu cyfathrebu'n dda ag eraill."

Dywedodd Terry, a oedd ar ben ei ddigon,

"Mae bod yn gyflwynydd radio wedi bod yn freuddwyd gen i ers erioed, ac mae'r profiad hwn wedi dangos fy mod i ar y trywydd cywir"

"Dw i wedi cael cyfle dros y misoedd diwethaf i wneud pethau nes i byth feddwl baswn i'n eu gwneud. Dw i wedi dysgu i beidio bod yn ofnus ac i wneud fy ngorau. Dw i'n siŵr rŵan fy mod i eisiau bod yn gyflwynydd yn y dyfodol."

⁠Mae ambell beth na fedra i'w gwneud, ond does neb yn berffaith yn y byd rhyfedd hwn, a dros y misoedd nesaf dw i am fynd amdani!"

Rhaid i mi fentro a cheisio dilyn fy llwybr fy hun, ond dw i'n ffodus iawn bod Mam a Dad yn fy nghefnogi bob amser."

Ar ôl gweld Terry'n gorffen ei gwrs yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, dywedodd ei fam Helen, "Dw i wedi gwylio Terry'n tyfu i fod yn oedolyn a dw i mor falch o ble mae wedi cyrraedd.

⁠ Mae'n bryd iddo fod yn annibynnol rŵan. Dw i'n fam falch iawn".

Ychwanegodd ei dad, Phil,

"Terry ydy fy ffrind gorau, mae ganddo gymaint o ddiddordebau. Dan ni'n sgwrsio am oriau weithiau gyda’r hwyr. Sgyrsiau am deithio, am fywyd. Mae o'n hoffi cerddoriaeth, wrth ei fodd ag o, dyna sy'n mynd a'i fryd."

"Ar ôl cwblhau ei gwrs sgiliau byw'n annibynnol yn y coleg, mae Terry wedi bod ar ragor o brofiad gwaith ar raglen deledu ddyddiol yng Nghaernarfon ac mae'n gobeithio cael gafael ar offer DJ am bris rhesymol er mwyn ymarfer ei sgiliau cyflwyno gartref.

Dywedodd Siwan Haf a gynhyrchodd y rhaglen ddogfen gyda Rhys Lloyd, bod Terry yn ddyn ifanc ysbrydoledig iawn"

Ychwanegodd Siwan, "Rydw i'n falch iawn o'r rhaglen. Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda Terry." ⁠

"Mae'n siarad mor agored ac onest am ei fywyd ac am ei hun yn benodol. ⁠Mae'n chwa o awyr iach, a dw i'n teimlo fy mod i wedi dysgu llawer ganddo a'i agwedd tuag at fywyd wrth dreulio amser yn ei gwmni."

⁠Dangosir y rhaglen, Drych: DJ Terry ar S4C, dydd Sul 29 Ebrill am 9pm. ⁠ ⁠

⁠Bydd is-deitlau Saesneg ar gael a gellir gwylio'r rhaglen ar blatfformau ffrydio S4C Clic, BBC iPlayer.