Dr Bryn Hughes Parry yn ymddeol ar ôl 30 mlynedd gyda Grŵp Llandrillo Menai
Mae’r darlithydd a’r pennaeth cynorthwyol hynod boblogaidd Dr Bryn Hughes Parry wedi ymddeol ar ôl 30 mlynedd gyda Grŵp Llandrillo Menai.
Mae Bryn wedi gwasanaethu fel pennaeth cynorthwyol Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai ers 2018, ar ôl dechrau ei yrfa fel darlithydd ffiseg ac electroneg Lefel A ar gampws Pwllheli nôl yn 1993.
Bu hefyd yn dysgu cemeg yn y Coleg, yn ogystal â mwynhau cyfnod fel Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd a Marchnata.
Yn gefnogwr rygbi brwd, mae Bryn yn Ffrainc ar hyn o bryd yn gwylio Cymru ym mhencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd. Bu'n hyfforddi tîm rygbi Coleg Meirion-Dwyfor yn y 1990au, ac yn chwarae i'w glwb lleol, Pwllheli.
Meddai Bryn, sy'n hanu o Llannor ym Mhen Llŷn: “Mae gen i atgofion gwych o’m cyfnod gyda Grŵp Llandrillo Menai. Mae wedi bod bleser gweithio gyda’r holl ddysgwyr a staff rydw i wedi dod i’w hadnabod dros y 30 mlynedd diwethaf gyda Choleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai.”
Dywedodd Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai: "Mae’n bleser cael y cyfle i ddiolch yn bersonol i Bryn am ei wasanaeth a’i ymroddiad i ni yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
"Dechreuodd Bryn ar ei yrfa fel darlithydd a hynny yn nyddiau cynnar sefydlu Coleg Meirion-Dwyfor 30 mlynedd yn ôl. Maes o law daeth yn bennaeth cynorthwyol ac yn aelod cydwybodol, gweithgar a phwysig o Uwch Dîm Rheoli Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor.
"Mae ei gyfraniad cyson a'i eiriau pwyllog a doeth yn rhinweddau y byddwn fel Tîm yn gweld eu colli. Rydyn ni i gyd yn dymuno ymddeoliad hapus iawn i ti Bryn.''
Mae Eifion Owen, Rheolwr Maes Rhaglen y Diwydiannau Gwasanaethu Coleg Meirion-Dwyfor, yn ffrind a chydweithiwr hir oes i Bryn, ac yn ei adnabod ers eu dyddiau yn Ysgol Glan y Môr ym Mhwllheli.
Meddai Eifion: “Bydd ei gyd-weithwyr a myfyrwyr ffiseg fel ei gilydd yn gweld eisiau ei arddull foneddigaidd a chyfeillgar o reoli a dysgu, wedi iddo ysbrydoli cenhedlaeth o wyddonwyr yn ardal Llŷn.
“Mae bellach wedi symud ymlaen ar drywydd anturiaethau newydd, a gall dreulio mwy o'i amser yn dilyn ei arbenigedd mewn ffiseg, sef ei brif ddiddordeb ystod ei 30 mlynedd yn y Coleg.
“Rydyn ni'n gobeithio ei fod yn mwynhau gwylio Cymru yng Nghwpan y Byd. Mi fydd bellach yn gallu gwylio a mwynhau ochr gymdeithasol cefnogi Clwb Rygbi Pwllheli mewn gemau canol wythnos hefyd."