Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Jacob yn dylunio cabanau peilot y dyfodol

Dr Jacob Greene, cyn-fyfyriwr o'r adran chwaraeon a'i daith o Goleg Llandrillo i'w waith dros BAE Systems.

Dilynodd Dr Jacob Green gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) yng Ngholeg Llandrillo rhwng 2011 a 2013. Enillodd dair gradd rhagoriaeth ar y cwrs. Deng mlynedd yn ddiweddarach, mae'n gweithio fel Uwch Beiriannydd Awyrofod - Ffactorau Dynol, gyda BAE Systems, ac yn dylunio system caban peilot ar gyfer awyrennau jet sy'n gwneud y gorau o berfformiad dynol. Cawsom sgwrs gyda Jacob, sy'n dod o Landrillo-yn-Rhos yn wreiddiol, i ddysgu rhagor am ei daith.

Rwyt ti'n gweithio fel Uwch Beiriannydd Ffactorau Dynol ym maes Awyrofod ar hyn o bryd - beth mae hyn yn ei olygu a beth wyt ti'n ei wneud?

Rydw i'n gweithio i BAE Systems Air, cwmni awyrofod Prydeinig a chwmni sy'n gweithio ar dechnoleg ym maes amddiffyn. Mae fy ngwaith fel Uwch Beiriannydd Ffactorau Dynol ym maes Awyrofod yn golygu fy mod yn dylunio system caban peilot ar gyfer awyrennau jet y genhedlaeth nesaf, sy'n gwneud y gorau o berfformiad dynol.

Yr her rydym yn ei wynebu ydy penderfynu pa dechnoleg yn y dyfodol allai gynnig dulliau blaengar, cyfeillgar i'r defnyddiwr, i'r peilot fydd yn ei alluogi i ymdrin â'r rhyngwyneb yn y caban peilot mewn amgylchedd cymhleth a deinamig. Mae hynny'n cynnwys y paneli arddangos eu hunain, y feddalwedd a'r offer llywio.

Mae monitro peilotiaid yn rhywbeth nad yw'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar beilotiaid awyrennau jet cyflym. Mae defnyddio fy nghefndir a datblygu technoleg o'r radd flaenaf fydd yn bwydo i blatfform y genhedlaeth nesaf yn rhywbeth cyffrous iawn. Fel rhan o fy ngwaith presennol rydw i'n ddigon ffodus i gydweithio ag arbenigwyr blaenllaw o nifer o ddisgyblaethau peirianneg gwahanol, yn cynnwys peilotiaid profi, er mwyn asesu technoleg mewn amgylchedd caban peilot. Rydw i hefyd yn cael cyfle i deithio i gynadleddau a rhyngweithio â phartneriaid a chwsmeriaid rhyngwladol.

⁠Ai dyma'r llwybr gyrfa oedd gennych mewn golwg pan oeddech chi'n astudio yng Ngholeg Llandrillo?

Mae chwaraeon wedi bod yn ganolog i fy hobïau a diddordebau. Yn ystod fy nghyfnod yn y coleg mi wnes i chwarae pêl-droed a chymryd rhan mewn athletau. Rydw i wastad wedi bod â diddordeb mewn gweld sut gallai gwyddoniaeth a thechnoleg wella perfformiad dynol. Roeddwn i'n gwybod, dw i'n meddwl, yn o fuan fy mod i eisiau dilyn cwrs gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff yn y brifysgol, ac roedd y coleg yn gam cyntaf perffaith ar y daith honno.

Mae dilyn pwnc sydd o ddiddordeb i mi wedi bod yn bwysig iawn i mi'n bersonol. Mi wnes i sylweddoli’n fuan iawn wrth barhau â'm haddysg bod ymchwil wyddonol a datblygu technoleg yn faes oedd o ddiddordeb mawr i mi, ac mi fues i'n ddigon ffodus i fod mewn sefyllfa i fanteisio ar gyfleoedd ar yr adeg iawn.

Mae gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff yn cyflwyno gwybodaeth am amrywiaeth o feysydd fel ffisioleg ymarfer corff, seicoleg a biomecaneg, ac yn cynnig cyfle i weld sut defnyddir dulliau ymchwil gwyddonol. Mae pob un o'r meysydd hyn yn berthnasol i nifer o ddisgyblaethau y tu allan i fyd chwaraeon, yn cynnwys maes gofal iechyd, gwyddoniaeth a thechnoleg a pheirianneg.

Yn ystod dy gwrs yng Ngholeg Llandrillo, beth wnest ti ei fwynhau?

Roedd 'na dîm arbennig o ddarlithwyr yn y coleg pan oeddwn i yno, ac roedden nhw'n barod iawn i rannu eu gwybodaeth eang â'u profiad â ni.

Mi fuon ni'n ffodus iawn i gael Rhodri Davies fel goruchwyliwr ac uwch ddarlithydd, ac mae o'n parhau i chwarae rhan allweddol yng ngwaith yr adran chwaraeon. Rhaid i mi ddiolch i Rhodri'n bersonol am ei gefnogaeth a'i help i gael lle yn y brifysgol ynghyd â gweddill yr adran am eu gwaith, roedd yn brofiad gwych, bythgofiadwy.

Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd Benjamin Owen, perchennog FAST Way to Fitness yn cyflwyno darlithoedd yn rheolaidd. Roedd profiad blaenorol Ben a'i gefndir yn cynnig cipolwg ar faes ymchwil gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff, ac yn ychwanegu haen arall o wybodaeth i gwrs diddorol iawn.

Sut brofiad oedd bod yn hyfforddwr gyda Tornio FC?

Yn ystod blwyddyn olaf fy nghwrs, cafodd tîm pêl-droed y coleg eu dewis ar gyfer taith i Turin yn yr Eidal i gwblhau pythefnos o brofiad gwaith. Roedd y trip hwn yn cynnig cyfle unigryw i weithio dramor gyda chlybiau pêl-droed proffesiynol yn cynnwys Tornio FC, a hyfforddi eu timau ieuenctid yn ogystal â gwylio eu tîm cyntaf. Trefnodd y coleg wersi Eidaleg i ni cyn y daith a sesiynau ar hyfforddi. Mi chwaraeon ni gemau yn erbyn timau lleol ac mi gawson ni gyfle i ymweld â chyfleusterau hyfforddi Juventus a gwylio AC Milan yn chwarae yn Stadiwm San Siro. Roedd y trip hwn yn anhygoel ac mi wnaeth gadarnhau ein penderfyniad i barhau i weithio yn y diwydiant.

Yn ogystal â chwaraeon, mi gawson ni gyfle i gwblhau cymhwyster Achub Bywyd gyda'r RNLI. Mi wnes i gwblhau hwnnw ac yn ystod fy nghyfnod yn y coleg a'r brifysgol roeddwn i'n gweithio fel achubwr bywyd. Diolch i'r cymhwyster hwn mi ges i gyfle i deithio i America a gweithio fel achubwr bywyd mewn gwersyll haf. Mi ges i brofiadau drwy'r coleg i wneud pethau y tu allan i'r hyn byddech chi'n ei ddisgwyl ac mae hyn wedi bod o fantais i mi ar sawl achlysur.

⁠Pa gyngor fyddet ti'n ei gynnig i unrhyw un sy'n ystyried astudio yng Ngholeg Llandrillo?

Gall y coleg gynnig mynediad at nifer o wahanol lwybrau gyrfa. O fy mhrofiad i, os ydych chi'n mwynhau eich gwaith a'r diwydiant rydych chi'n gweithio ynddo, mi fyddwch chi'n barod i ymroi amser ac ymdrech i'r gwaith hwnnw. Hefyd os byddwch chi'n dal ati i ymroi ac yn parhau i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd, mi ddaw'r cyfleoedd sy'n gweddu i chi.

Mae cyfle o hyd i ddilyn cwrs ym maes Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored gyda Grŵp Llandrillo Menai. ⁠I gael rhagor o wybodaeth a gwybodaeth am sut i wneud cais, cliciwch yma.