Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ein Grŵp: Cyfarfod a'r Staff (Chwefror 2022)

Croeso i ‘Ein Grŵp’, yr eitem fydd yn cyflwyno proffil aelod o staff Grŵp Llandrillo Menai.

Bydd ‘Ein Grŵp’ yn rhoi sylw i aelod o staff bob mis: cewch gyfle i adnabod ein Tîm ychydig yn well, clywed am eu swydd a'r profiadau gwych maen nhw wedi'u cael gyda'r Grŵp.

Enw: Owain Evans

Teitl Swydd: Uwch Gynorthwyydd Cefnogi Arholiadau

Beth yw dy rôl di oddi fewn Grŵp Llandrillo Menai?

Cyd-lynnu arholiadau SHC ar safleoedd Coleg Menai

Pryd gychwynais di yn y Coleg?

Mai 2016

Beth wyt ti yn fwynhau am dy swydd?

Sicrhau fod y myfyrwyr yn cael y cyfle gorau i lwyddo yn eu arholiadau a chyfarfod aelodau o staff y Grŵp.

Gobeithion / Adduniadau 2022?

Cynyddu'n milltiroedd rhedeg, a chwblhau fwy oddi ar restrau mynyddoedd Cymru a Lloegr.

Beth wyt ti yn fwynhau ei wneud tu allan i gwaith/ amser hamdden?

Cymdeithasu, Mynydda, Rhedeg a Teithio

Dweud bach amdanat ti?

Fel y soniais yn gynharach, yn fy amser hamdden, mae'n bur debyg y dowch o hyd i mi ar gopa mynydd neu'n rhedeg.

Cefais yn ysgogi i wella'n ffitrwydd wedi cyrraedd copa yn mynydd cyntaf 4000m yn y Swistir yn ystod 2018.

Dechreuais redeg yn Hydref 2018, wrth ddilyn y Cynllun 'Couch to 5K' (ar lôn gefn guddiedig!), a llwyddais i golli dros 4 stôn yn ei sgil. Ers hynny, dwi 'di cerdded copaon mynyddoedd 4,000m yr Atlas, cwblhau 47 o'r Munros a rhedeg Hanner Marathon cyntaf o dan ddwy awr.

Os oes rhywun yn pryderu cymryd y cam cyntaf, un neges sydd gennai: Cerwch amdani! Bydd y penderfyniad gorau wnewch chi!