Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Penodi Deio yn un o Ymddiriedolwyr Ifanc Urdd Gobaith Cymru

Bydd un o gyn-lywyddion Undeb Myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor yn cynrychioli llais pobl ifanc ym mudiad ieuenctid mwyaf Cymru

Cafodd y cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor Deio Siôn Llewelyn Owen ei benodi'n un o Ymddiriedolwr Ifanc yr Urdd.

Bydd Deio, o Abererch ger Pwllheli, yn eistedd ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, gan sicrhau bod gan bobl ifanc lais yn y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer mudiad ieuenctid mwyaf Cymru.

Mae’r bachgen 21 mlwydd oed yn un o ddau Ymddiriedolwr Ifanc newydd sydd wedi’u penodi am gyfnod o dair blynedd. Emily Pemberton o Gaerdydd yw’r llall.

Bu Deio’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd o’r ysgol gynradd i’r brifysgol, ac mae wedi bod yn ymwneud â’r mudiad ers blynyddoedd lawer trwy glybiau a chystadlaethau chwaraeon.

Dywedodd: “Mae bod yn aelod o’r Urdd ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn werthfawr iawn i mi, ac wrth i’r mudiad gamu i’w ail ganrif, rydw i am ei weld yn parhau i ffynnu ac yn ehangu gorwelion cymaint o blant a phobl ifanc â phosib.”

Y llynedd, ymwelodd Deio ac Emily ag Alabama gyda’r Urdd i nodi'r 60 mlynedd ers bomio Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street, Birmingham ac er mwyn meithrin y berthynas rhwng y ddinas â Chymru.

Meddai Deio: “Mi aethon ni i Alabama ar y daith Heddwch ac Ewyllys Da a gweld y gwaith arbennig mae’r Urdd yn ei wneud, ac roeddwn i eisiau bod yn rhan ohono.

“Rydw i’n ddiolchgar am y cyfle i roi rhywbeth yn ôl i fudiad sydd mor bwysig i Gymru.”

Astudiodd Deio ei bynciau Lefel A ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli a gwasanaethodd hefyd fel llywydd Undeb y Myfyrwyr i’r coleg.

Yn ddiweddar fe’i penodwyd yn Is-lywydd Iaith Diwylliant a Chymuned Cymru ar gyfer Undeb Myfyrwyr Caerdydd. Graddiodd Deio o Brifysgol Caerdydd y llynedd gyda Gradd yn y Gymraeg a Gwleidyddiaeth, ac mae’n ymddiriedolwr yn y brifysgol.

Dywedodd fod ei gyfnod yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn hynod werthfawr wrth ei arwain at y trywydd y mae arno nawr.

“Mae fy rôl gydag Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn rôl sabothol am flwyddyn, yn cynrychioli siaradwyr Cymraeg yn y brifysgol, yn academaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol, gan wneud yn siŵr bod y Gymraeg yn rhan annatod o benderfyniadau,” meddai Deio.

"Ond dechreuodd fy nhaith fel cynrychiolydd 'nôl yng Ngholeg Meirion-Dwyfor. Roedd yn lle gwych i astudio, gydag amrywiaeth eang o ddysgu ar gael mewn lle cyfarwydd.

“Roedd yna lawer o gyfleoedd hefyd. Fe wnaeth bod yn llywydd Undeb y Myfyrwyr fy helpu i sylweddoli beth yw Undebau Myfyrwyr a pha mor bwysig ydyn nhw i lais myfyrwyr mewn sefydliadau academaidd.”

I gael rhagor o wybodaeth am Urdd Gobaith Cymru, ewch i urdd.cymru. Cewch ragor o wybodaeth am Undeb y Myfyrwyr yng Ngrŵp Llandrillo Menai yma.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio pynciau Lefel A yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Rydym yn cynnig dros 30 o bynciau – cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.