Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dosbarth meistr i gogyddion dan hyfforddiant

Daeth Karl Jones, o Ganolfan Technoleg Bwyd Grŵp Llandrillo Menai, i fwyty Orme View Coleg Llandrillo i ddangos i fyfyrwyr cyrsiau arlwyo sut i gael y gorau o gig oen a chig eidion o Gymru

Daeth Karl Jones, o Ganolfan Technoleg Bwyd Grŵp Llandrillo Menai, i gyflwyno dosbarth meistr i gogyddion dan hyfforddiant yng Ngholeg Llandrillo.

Mae gan Karl, technolegydd bwyd sy'n arbenigo mewn cigyddiaeth, 38 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y diwydiant yng ngogledd Cymru.

Rhoddodd arddangosiad ymarferol i ddysgwyr o'r adran Lletygarwch ac Arlwyo ym mwyty Orme View yn Llandrillo-yn-Rhos, yn dangos sut i wneud dwsinau o wahanol doriadau o garcas cig oen a charcas cig eidion.

Esboniodd Karl hefyd werth pob darn gwahanol a sut y gellid ei ddefnyddio mewn bwyty.

Dywedodd: “Mae’n ymwneud ag ychwanegu gwerth, ac rydw i wedi bod yn dangos i’r myfyrwyr sut i gael y gorau o’u cig. Mae cig mor ddrud ar hyn o bryd a'r neges dwi'n gobeithio ei chyfleu i'r myfyrwyr arlwyo ydy gwerth y cig, a sut i ddefnyddio'r carcas cyfan.

“Mae’n gyfle i godi ymwybyddiaeth am y cynnyrch gwych lleol yma, sef cig oen Cymreig a chig eidion Cymreig.”

Mae gan gig oen Cymru a chig eidion Cymru statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI), sy’n cydnabod bwydydd o ansawdd uchel gyda nodweddion arbennig sy’n unigryw i’r ardal lle cawsant eu cynhyrchu.

Mae gwybod am y cynhyrchion hyn yn helpu cogyddion y dyfodol i wneud y mwyaf o'u defnydd o gynnyrch lleol a hefyd yn hyrwyddo gogledd Cymru.

“Bwydydd lleol, tymhorol a chynaliadwy ydy’r hyn y mae defnyddwyr yn chwilio amdano fwyfwy erbyn hyn – yn enwedig bwydydd gyda’r brand PGI,” meddai Karl.

“Rydyn ni’n rhoi’r adnoddau iddyn nhw gael y gorau o’r cig oen Cymreig a chig eidion Cymreig o'r ardal, yn ogystal â bwydydd eraill fel pysgod a chregyn gleision.

“Felly pan fyddan nhw'n rhedeg eu bwytai eu hunain, bydd ganddyn nhw'r wybodaeth i ddod o hyd i gynhyrchion lleol a'u defnyddio, a chael gwell gwerth o'r cynhyrchion hynny.

“Fe fyddan nhw hefyd yn gallu defnyddio’r cynnyrch lleol hynny i hyrwyddo’r ardal i’r cwsmeriaid sy’n dod i’w bwytai o’r tu allan i ogledd Cymru.”

Mynychwyd y dosbarth meistr gan ddysgwyr cyrsiau Cegin a Phantri Lefel 3, a chyrsiau Lletygarwch ac Arlwyo Lefel 1 a 2.

Dywedodd y tiwtor Gweni Bwyd, Mike Garner: “Mae rhai o’r cynhyrchion y mae Karl yn eu dangos i’r myfyrwyr, fel y noisettes a’r trim Ffrengig, yn beth mae myfyrwyr Lefel 3 yn ei ddysgu. Ond mae hefyd yn dda i fyfyrwyr Lefel 1 a 2 ddysgu beth sy'n mynd i mewn i'r seigiau mwy cymhleth hyn.

“Os ydyn nhw’n gallu cael dealltwriaeth o’r hyn sydd ynghlwm wrth gynhyrchu’r prydau, maen nhw’n mynd i wneud gwell penderfyniadau pan maen nhw’n gweithio mewn bwytai ac mewn ceginau. Mae cyflogwyr hefyd yn fwy tebygol o'u cyflogi os ydynt yn gwybod am y cynhyrchion a gwerth y cynhyrchion.

“Bydd gweithio gyda chynnyrch lleol, tymhorol a chynaliadwy yn gwneud busnesau'n gryfach ac yn cryfhau’r diwydiant yn ei gyfanrwydd, a bydd dysgu am hyn o fantais i fyfyrwyr yn eu swyddi.”

Meddai Connor Parry, myfyriwr ar gwrs Cegin a Phantri Lefel 3: “Roedd yn ddiddorol iawn dysgu am yr elw y gallwch ei wneud o’r gwahanol ddarnau. Mae cymaint o doriadau gwahanol, ac fe helpodd fi i ddeall rhagor amdanynt.”

Sefydlwyd Canolfan Technoleg Bwyd, Grŵp Llandrillo Menai yn Llangefni yn 1999 ac mae'n chwarae rhan allweddol wrth drosglwyddo gwybodaeth i'r diwydiant bwyd yng Nghymru, ar draws y DU ac yn rhyngwladol.

  • Os oes gennych fusnes bwyd a diod yng Nghymru, mi allech chi fod yn gymwys i dderbyn cefnogaeth gan brosiect HELIX. Gall cwmnïau cymwys fanteisio ar gefnogaeth dechnegol a masnachol gan ein canolfannau bwyd. Ariennir Prosiect HELIX gan Lywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Canolfan Technoleg Bwyd, Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.

⁠Awydd astudio Lletygarwch ac Arlwyo gyda Grŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma ⁠i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.