Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Profiadau Myfyrwyr Cyrsiau Gradd yn y Coleg

Yn dilyn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr eleni a safle cadarnhaol Grŵp Llandrillo Menai, mae myfyrwyr hefyd wedi rhannu eu barn a'u profiadau o astudio cyrsiau Gradd yng ngholegau'r Grŵp.

Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) daeth Grŵp Llandrillo Menai yn 7fed drwy Gymru am foddhad myfyrwyr, yr un safle â'r ddwy flynedd flaenorol.

Dywedodd un myfyriwr sy'n dilyn cwrs Rheoli Busnes ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau,

"Dewisais y cwrs hwn oherwydd mae'n lleol i mi ac roeddwn i wedi clywed nifer o sylwadau cadarnhaol gan gyn-fyfyrwyr. Mae gen i blant ac oherwydd bod y cwrs yn cael ei gynnal un diwrnod yr wythnos ac mae o fewn 5 munud i fy nghartref, mae hyn yn golygu ei bod hi'n bosib i mi weithio, gofalu am fy mhlant a dilyn cwrs gradd.

Meddai myfyriwr arall:

"Un peth da am y cwrs ydy mai grŵp bwch o fyfyrwyr sy'n ei ddilyn, ac mae'r gefnogaeth un-i-un a'r wybodaeth yn fwy manwl. Mae hyn yn gwneud i chi deimlo eich bod yn rhan o deulu bach yn hytrach na'n un o nifer fawr mewn prifysgol fawr."

Mae'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) yn casglu barn myfyrwyr am ansawdd eu cyrsiau, ac mae hynny yn ei dro o gymorth i gynghori darpar fyfyrwyr am eu dewisiadau; mae'n cynnig data sy'n cynorthwyo prifysgolion a cholegau i wella profiad myfyrwyr ac yn cefnogi atebolrwydd cyhoeddus. Mae pob prifysgol yn y DU yn cymryd rhan yn yr arolwg, ynghyd â nifer o golegau addysg bellach, ac mae'r cyfraddau ymateb yn uchel bob amser.

Cyfradd boddhad myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai oedd 81.7%, cynnydd o 5% ar radd y llynedd a 5% yn uwch na'r gyfradd yn genedlaethol.

Dywedodd un myfyriwr sy'n dilyn cwrs Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Llandrillo eu bod "yn falch gyda'n nifer o dripiau a gynigir" - roedden nhw newydd fod i Fanceinion ac wedi bod mewn sesiwn holi ac ateb gyda chynhyrchiad proffesiynol.

Mae sylwadau gan fyfyrwyr Addysg Uwch eraill ar draws y Grŵp yn cynnwys:

"Mae'r gefnogaeth yn anhygoel a'r cysywllt personol yn wych", MAe bywyd Coleg yn dda, popeth yn hawdd i'w ddeall ac os bydd angen cymorth arnom, mae'r tiwtor ar gael bob amser," ac "Rydych yn teimlo mai chi sy'n cael blaenoriaeth ac mae'r atebion yn dod yn gyflym iawn ar -bost"

Meddai Joanne Owen, Rheolwr Datblygu Addysg Uwch,

Mae'r profiadau cadarnhaol a rannwyd gan y myfyrwyr yn brawf o'r gwaith caled ac ymroddiad darlithwyr Grŵp Llandrillo Menai" Hoffwn ddiolch i'r myfyrwyr am rannu eu teimladau am y cyrsiau maen nhw'n eu dilyn, ac am fywyd yn y coleg.

"Rydw i wrth fy modd i weld bod gwaith caled ein myfyrwyr Addysg Uwch, a'r staff sy'n eu cefnogi, wedi arwain at ganlyniadau mor gadarnhaol yn yr arolwg hefyd. Rydym yn falch iawn ein bod ni'n gallu cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau gradd i'n myfyrwyr, oherwydd mae hi'n amhosib i nifer ohonynt astudio mewn Prifysgol oddi cartref oherwydd ymrwymiadau personol.

Mae hi'n fraint cynorthwyo ein myfyrwyr i symud ymlaen ac ymestyn eu hunain drwy ennill gradd a gweithio yn lleol." Gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rydym hefyd yn falch iawn o gynnig amrywiaeth eang o gyrsiau Addysg Uwch dwyieithog i fyfyrwyr, ac rydym wrth ein boddau bod rhagor yn dilyn y cyrsiau hyn ac yn cefnogi Safonau'r Gymraeg."

I gael rhagor o wybodaeth am ddilyn cwrs gradd gyda Grŵp Llandrillo Menai cliciwch yma.