Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ymweliad Cwmni Swig yn Hybu Myfyrwyr Adeiladwaith a Pheirianneg i feddwl am Gychwyn Busnes

Yn ddiweddar, daeth Tomos Owen o gwmni 'Smwddi Swig', ar ymweliad arbennig a safle CaMDA yn Nolgellau, er mwyn rhannu ei brofiadau gyda’r myfyrwyr


Mae Swig Smoothies yn gwmni smwddi newydd wedi ei leoli yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru. Sydd yn ymfalchïo mewn darparu smwddis iach, blasus, sy'n llawn blasau maethlon. Mae'r smwddis bob amser yn cael eu gwneud yn ffres o fan smwddi symudol.

Yn ystod y sesiwn, cafodd myfyrwyr gyfle i ddarganfod mwy am entrepreneuriaeth a dechrau busnes o’r gwaelod i fyny, yn ogystal â pha gymorth sydd ar gael i fusnesau bach. Cawsant hefyd gyfle i drafod manteision diet iach, a chawsant gyfle i roi cynnig ar y blasau cyffrous sydd ar gael gan Swig Smoothies.

Dywedodd Tomos Owen o 'Swig',

“Ar ôl gweithio am hafau yn olynol dros y blynyddoedd diwethaf yn America, sylwais fod bariau smwddi a siopau yn boblogaidd iawn yno. Dwi wedi breuddwydio’n aml am gael cwmni smwddi fy hun yma yng Ngogledd Cymru.”

“Yn ystod haf 2020 ni allwn fynd yn ôl i weithio yn America oherwydd Covid-19, fodd bynnag, rhoddodd gyfle i mi ddechrau ar fy mreuddwyd o fod yn berchen ar gwmni smwddi. Gyda chymorth y cynllun “Llwyddo’n Lleol 2050” llwyddais i gyflawni hyn a thros yr haf hwnnw datblygais enw, brand a chynnyrch.”

Ychwanegodd Tomos,

“Ar ddiwedd haf 2020, fe wnaethom gynnal rhediad prawf lle gwnes i smwddis o fy nghartref a’u danfon o amgylch ardal Caernarfon. Yn 2021, fe wnes i brynu Fan Smwddi unigryw iawn ac rydym wedi bod yn masnachu ohoni ers hynny, gan fynd i lawer o leoliadau anhygoel ledled Gogledd Cymru. Heddiw, rydym yn parhau i deithio o gwmpas yn ein fan symudol, yn darparu smwddis ffres, blasus ac iach - gan gynnwys cynhyrchion cyffrous eraill.”

Dywedodd Marius Jones, Pennaeth Adeiladwaith a Pheirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

“Mae llawer o fyfyrwyr ar y cyrsiau adeiladwaith a pheirianneg yn mynd ymlaen i gychwyn busnesau lleol ar ôl iddynt adael y coleg, felly mae cael y cyfle i glywed am brofiadau, pobol fel Tomos yn werthfawr iawn. Mae stori Tomos yn ysbrydoliaeth a deud y lleiaf, nid ar chware bach mae cychwyn busnes yng nghanol pandemig byd eang, ond dyna’n union y gwaeth Tomos.”

Yn ystod y sesiwn, cafodd myfyrwyr gyfle i ddarganfod mwy am entrepreneuriaeth a dechrau busnes o’r gwaelod i fyny, yn ogystal â pha gymorth sydd ar gael i fusnesau bach. Cawsant hefyd gyfle i drafod manteision diet iach, a chawsant gyfle i roi cynnig ar y blasau cyffrous sydd ar gael gan Swig Smoothies.

Ychwanegodd Marius Jones,

“Mae’r profiadau yr ydym yn eu cynnig i’n myfyrwyr ar ein cyrsiau adeiladwaith a pheirianneg yn eang iawn. Wrth reswm, mae canran helaeth o’r cwrs yn ‘hands on’ yn y gweithdy, ond mae llawer o’r addysgu’n digwydd hefyd drwy ymweliadau, profiadau amrywiol, a sgyrsiau hynod o ddifyr gan unigolion fel Tomos. Diolch am dy ymweliad Tomos. “