Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y Ddelwedd i gystadlu ym Mrwydr y Bandiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae aelodau'r band i gyd yn astudio pynciau Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, a byddant yn cystadlu ar Lwyfan y Maes am wobr o £1,000

Mae band 'Y Ddelwedd' o Goleg Meirion-Dwyfor wedi cyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau'r BBC yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Aelodau'r band yw Hari Emlyn Davies, Enlli Jones, Owen Wyn Jones, Cian Clinc, Eban Davies ac Isaac Parsons ac maent i gyd yn astudio ar gampysau Pwllheli a Dolgellau.

Ddydd Mercher 6 Awst byddant yn perfformio ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, gan gystadlu yn erbyn bandiau o bob cwr o Gymru.

Bydd yr enillwyr yn ennill £1,000 ac yn cael chwarae ar lwyfan Maes B nos Sadwrn 9 Awst.

Meddai Hari: “Dim ond ers cwta flwyddyn 'dan ni wedi bod yn chwarae efo'n gilydd, felly mae cyrraedd ffeinal Brwydr y Bandiau'n dipyn o sioc, ac ar ben hynny cael chwarae ar faes yr Eisteddfod.

“Rydan ni wedi cael llwyth gefnogaeth gan staff a myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor. Mae'r darlithwyr wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi rhoi cyfle i ni ddatblygu'n greadigol ac yn artistig. Rydan ni cymryd rhan mewn ychydig o gigs yn y coleg, ond dyma fydd uchafbwynt y flwyddyn hyd yma.”

Dim ond ym mis Chwefror eleni y chwaraeodd y Ddelwedd eu gig gyntaf, felly mae cyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau'n dipyn o gamp.

Dyma oedd gan Bennaeth Cynorthwyol Coleg Meirion-Dwyfor, Fflur Rees Jones, i'w ddweud: “Mae pawb yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn hynod o falch bod y Ddelwedd wedi cyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau'r BBC yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Mae eu diddordeb mewn cerddoriaeth a'u hymroddiad yn dangos yr hyn sy'n bosib ei gyflawni drwy weithio'n galed fel tîm. Dim cynrychioli'r coleg yn unig maen nhw – ond ein hysbrydoli ni i gyd.”

  • Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Wrecsam rhwng dydd Sadwrn 2 Awst a dydd Sadwrn 9 Awst. Bydd y Ddelwedd yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau am 4pm ddydd Mercher 6 Awst.

Ydych chi eisiau astudio cyrsiau Lefel A? ⁠Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig mwy na 30 o gyrsiau yn ein canolfannau Chweched Dosbarth yn Nolgellau, Llangefni, Pwllheli, Llandrillo-yn-Rhos a'r Rhyl. Dysgwch ragor yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date