Daniel yn dychwelyd i gampws Hafan i rannu ei fformiwla ar gyfer llwyddiant
Cyn-fyfyriwr peirianneg o Goleg Meirion-Dwyfor yn cyflwyno sgwrs i'r garfan bresennol o fyfyrwyr ar fywyd yn y brifysgol a chystadlu yn Formula Student
Yn ddiweddar, daeth Daniel Pirie, sy'n gyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor, yn ôl i siarad am fywyd yn y brifysgol a chystadlu ym mhencampwriaeth rasio modur 'Formula Student'.
Astudiodd Daniel y cwrs BTEC mewn Peirianneg Uwch dwy flynedd o hyd ar gampws Hafan ym Mhwllheli, gan gwblhau ei ddiploma ychydig dros flwyddyn yn ôl.
Bellach, mae ar fin dechrau ail flwyddyn ei gwrs gradd mewn Peirianneg Awyrennau ym Mhrifysgol Kingston Llundain.
Yn ystod ei flwyddyn gyntaf, roedd Daniel yn rhan o'r tîm a ddyluniodd ac a adeiladodd gar Formula Student y brifysgol, gan rasio yn Silverstone a chystadlu yng Nghyprus a Gwlad Groeg hefyd dros yr haf.
Defnyddiodd Daniel, sydd â diddordeb brwd mewn Fformiwla Un, sgiliau a ddysgodd tra oedd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor wrth helpu ei gyfoedion i ddatblygu ceir rasio ar gyfer pencampwriaeth F1 in Schools ranbarthol gogledd Cymru.
“Mi wnes i fwynhau cymryd rhan yng nghystadleuaeth F1 in Schools tra roeddwn i yng Ngholeg Meirion-Dwyfor,” meddai Daniel pan ddychwelodd i gampws Hafan yn ddiweddar. “Rhoddodd gyfle i mi wella fy sgiliau gwaith tîm a datrys problemau, wnaeth yna fy helpu i ddylunio car rasio ar gyfer gweithgaredd allgyrsiol Formula Student yn y brifysgol.”
Mae cystadleuaeth F1 in Schools yn rhoi cyfle i dimau o fyfyrwyr i greu ceir gan ddefnyddio prosesau dylunio a gweithgynhyrchu â chymorth cyfrifiadur, cyn eu rasio ar gyflymderau dros 35mya yn rowndiau terfynol gogledd Cymru yn Ninbych.
Mae'r gystadleuaeth yn gofyn am fwy na dylunio'r car cyflymaf - mae'r timau'n cael y dasg o ennill nawdd ac yn cael eu sgorio ar gyflwyniad llafar o flaen y beirniaid, a'u portffolios peirianneg a menter.
Mae F1 in Schools yn rhan annatod o gwrs Lefel 3 mewn Peirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, gyda thîm o gampws Hafan yn llwyddo i gyrraedd rownd derfynol y DU yn 2024. Mae'r coleg hefyd yn cynnig y rhaglen mewn ysgolion lleol, gyda mwy nag erioed yn barod i gymryd rhan eleni.
Dywedodd Daniel: “Mae’n wych clywed bod y coleg yn ymestyn ei gyfranogiad a’i gefnogaeth i ysgolion lleol ar gyfer rowndiau terfynol rhanbarthol gogledd Cymru cystadleuaeth eleni. Pob lwc i'r holl dimau sy'n cystadlu.”
Ychwanegodd Daniel fod ei gyfnod yng Ngholeg Meirion-Dwyfor wedi gosod y sylfaen ar gyfer mynychu'r brifysgol: “Ar ôl cwblhau'r cwrs Lefel 3 mewn Peirianneg Gyffredinol roeddwn i’n hyderus ac yn cael graddau da mewn aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol ac adroddiadau labordy, oherwydd y wybodaeth sylfaenol a’r adborth a gefais gan fy nhiwtoriaid yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.
“Hefyd, mae’r sgiliau a ddysgais yn yr unedau Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur a Pherfformio Gweithrediadau Peirianneg wedi fy helpu gyda’r gweithgareddau allgyrsiol yn y brifysgol.”
Meddai Emlyn Evans, darlithydd peirianneg ar gampysau Pwllheli a Dolgellau: “Mae’n wych clywed am ein cyn-fyfyrwyr a’r hyn maen nhw’n ei wneud ar ôl iddyn nhw adael y coleg a symud ymlaen â’u hastudiaethau a’u gyrfaoedd. Mae'n rhoi llawer iawn o foddhad i ni i gyd ein bod wedi bod yn rhan o'u datblygiad.
“Mae Daniel wedi ymroi i’w astudiaethau a bydd yn symud ymlaen i’w ail flwyddyn ym Mhrifysgol Kingston Llundain, ar ôl cyflawni graddau 'A' yn ei flwyddyn gyntaf.
“Dymunwn bob lwc i Daniel a’i dîm ym Mhrifysgol Kingston Llundain wrth gystadlu yn Formula Student, ac edrychwn ymlaen at glywed am eu llwyddiant parhaus yn y gystadleuaeth.”
Am ragor o wybodaeth am y ddarpariaeth beirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor cysylltwch â ev.evans@gllm.ac.uk
Hoffech chi ddysgu rhagor am y cyffro sydd ynghlwm wrth beirianneg yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cewch ragor o wybodaeth am ein cyrsiau yma.