Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Blas o’r diwydiant lletygarwch i ddisgyblion

Fel rhan o'r Cynllun Talent Twristiaeth, daeth bron i 500 o ddysgwyr ynghyd i wylio cogyddion proffesiynol wrth eu gwaith, i greu seigiau eu hunain a chymryd rhan mewn heriau coginio

Cafodd myfyrwyr o bob rhan o Sir Ddinbych flas unigryw o’r diwydiant lletygarwch yn Ysgol Uwchradd y Rhyl diolch i Gynllun Talent Twristiaeth, Coleg Llandrillo.

Rhoddodd Jimmy Williams, cogydd gweithredol Signatures yng Nghonwy, arddangosfa goginio i'r disgyblion yn ystod y gweithgareddau a drefnwyd dros ddau ddiwrnod yn yr ysgol Cafodd y disgyblion gyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithdy rhyngweithiol 'The School Food Showdown', a oedd yn cynnwys arddangosfa flambé a sut i greu moctels .

Rhannwyd bag nwyddau â myfyrwyr Blwyddyn 7 a oedd yn cynnwys llyfrynnau gweithgareddau sgiliau bywyd sylfaenol, coginio, torri bwyd a maeth, a byrbryd iach i'w flasu.

Cafodd myfyrwyr Blwyddyn 10 gynhwysion ffres i goginio risotto, ynghyd â cherdyn bwydlen, ffedog, llwyau mesur ac offer coginio pren i fynd adref gyda nhw.

Trefnwyd yr ymweliad drwy brosiect y Gronfa Ffyniant Gyffredin o’r enw Cynllun Talent Twristiaeth, sydd â’r nod o ysbrydoli pobl ifanc i ymuno â’r sector lletygarwch a thwristiaeth, a fydd yn ei dro yn diogelu iaith, diwylliant a threftadaeth gogledd Cymru.

Ar ddiwrnod cyntaf y rhaglen, cymerodd dysgwyr Blwyddyn 7 ran yn The School Food Showdown, sef sioe addysgiadol a rhyngweithiol yn seiliedig ar y rhaglen deledu 'Ready, Steady, Cook'.

Mae'r sioe yn canolbwyntio ar wneud dewisiadau bwyd iach, ac yn cloi gyda sesiwn goginio gyffrous. Dysgodd y plant sgiliau bywyd gwerthfawr yn ystod y sioe, a dealltwriaeth o faeth, yn ogystal â dysgu am dechnegau coginio.

Daeth dros 400 o blant i wylio'r sioe, yn cynnwys 240 o Ysgol Uwchradd y Rhyl, 170 o Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy, 20 o Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl a grŵp Sgiliau Bywyd o Ysgol Llywelyn yn Y Rhyl.

Yn ystod y prynhawn, gwyliodd myfyrwyr cyrsiau Lletygarwch Blwyddyn 10, Ysgol Uwchradd y Rhyl sesiwn arddangos a blasu gyda’r cogydd Jimmy Williams.

Dangosodd y cogydd o fwyty Signatures, a ddysgodd ei grefft yng Ngholeg Llandrillo, sut i goginio korma cyw iâr a reis wedi'i frwysio ynghyd â chacen gaws popcorn gyda saws taffi a banana.

Dywedodd wedyn: “Mae lletygarwch yn yrfa werth chweil, ac rydw i eisiau helpu i roi hwb i'r diwydiant. Mi ddwedais i wrth y myfyrwyr, gallwch chi gyflawni unrhyw beth os ydych chi'n newid un peth - eich meddylfryd. Mae'n rhaid i chi roi'r amser a'r ymdrech a chael yr angerdd hwnnw.

“Roedd y myfyrwyr yn wych. Roedd ganddyn nhw ddiddordeb, roedden nhw’n gofyn llwyth o gwestiynau i mi, ac roedd rhai ohonyn nhw hyd yn oed yn gofyn am gael cael lluniau gyda mi ar y diwedd!”

Ar yr ail ddiwrnod, rhoddodd Rhian James, myfyrwraig arlwyo o Goleg Llandrillo, arddangosiad flambé a moctêls i fyfyrwyr Blwyddyn 10. Yn dilyn hynny trefnwyd her goginio, a choginiodd pob myfyriwr risotto mewn llai nag awr, dan arweiniad Glenydd Hughes, darlithydd arlwyo yng Ngholeg Llandrillo.

Daeth 498 o ddisgyblion i fanteisio ar y gweithgareddau a drefnwyd dros y ddau ddiwrnod.

Dywedodd Lindsay Lloyd, Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Uwchradd y Rhyl: “Roedd y profiad deuddydd yn wych, o’r gystadleuaeth i ddisgyblion blwyddyn 7, i sesiwn Jimmy o Signatures yn rhannu hanes ei fywyd gyda disgyblion blwyddyn 10 a'r cyfle i flasu prydau o ansawdd ar ôl ei arddangosfa.

"Roedd ein disgyblion blwyddyn 10 yn cymryd rhan lawn yn y gweithdai coginio a gynhaliwyd yn ystod yr ail ddiwrnod. Roedden nhw wir yn gwerthfawrogi gweithio gyda’r cogydd a’r myfyriwr o’r coleg ac wedi mwynhau’r arddangosiadau a’r cyfle i flasu moctels a’r pwdin flambé.”

Ychwanegodd: “Mae digwyddiadau fel hyn yn hollbwysig i’n disgyblion. Maen nhw’n eu hysbrydoli i ystyried eu dyfodol a ble y gallai eu harwain, i feddwl am addysg bellach a thu hwnt, yn ogystal â’u cyflwyno i brofiadau na fyddent efallai’n eu cael fel arall.”

Meddai Claire Jones, Rheolwr Prosiectau Twristiaeth a Lletygarwch yng Ngogledd Cymru gyda Grŵp Llandrillo Menai: “Nod y prosiect hwn yw cynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa ym maes twristiaeth a lletygarwch yn Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn. Mae'n ceisio newid proffil a chanfyddiadau am y sector a hyfforddi myfyrwyr i ateb y galw cynyddol.

"Mae hyn yn cyd-fynd â phrosiect Y Fargen Twf (a elwir ar hyn o bryd) Rhwydwaith Talent Twristiaeth, prosiect newydd sy’n torri tir newydd ar y cyd rhwng Canolfan Ragoriaeth newydd sbon Coleg Llandrillo a phartneriaid: Zip World, Portmeirion, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Snowdonia Hospitality & Leisure Ltd. Bydd y cydweithio hwn yn darparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel, ar lefel addysg bellach, addysg uwch, a phrentisiaethau.”

Ariennir prosiect y Cynllun Talent Twristiaeth gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i tourismtalentpathfinder.gllm.ac.uk