Myfyrwyr Adeiladwaith yn Ymweld â Phrosiect Amddiffyn yr Arfordir
Rhoddwyd gwahoddiad arbennig i fyfyrwyr Adeiladu Coleg Llandrillo i ymweld â phrosiect amddiffyn yr arfordir mawr y sôn amdano yn Llandrillo-yn-Rhos.
Trefnwyd yr ymweliad a'r safle ar bromenâd Gorllewinol y dref arfordirol drwy CITB (Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu) Cymru fel rhan o'r fenter "Gweld Eich Safle". Dechreuodd Griffiths Civil Engineering waith ar y prosiect yn yr haf, ac mae i'w orffen yng ngwanwyn 2023.
Wedi cyrraedd, darparwyd yr holl wybodaeth ynglŷn â'r prosiect i'r myfyrwyr, wedi ei ddilyn gan ymweliad safle a sesiwn cwestiwn ac ateb.
Dywedodd tiwtor Coleg Llandrillo Jeff Price: "Llawer o ddiolch i'r CITB a Griffiths Civil Engineering am ddarparu cyfle amhrisiadwy i'n myfyrwyr Gwaith brics a gradd i ymweld â'r safle adeiladu hwn o bwys. Roedd y sgwrs yn addysgiadol iawn a chafodd y myfyrwyr y cyfle i ofyn cyfres o gwestiynau ynglŷn â'r prosiect a'r diwydiant adeiladu yn gyffredinol."
Nod y prosiect yw gwella amddiffynfeydd yr arfordir drwy fewnforio tua 1 miliwn tunnell o dywod i'w roi o flaen y morglawdd presennol. Bydd hyn yn amddiffyn y morglawdd a'r nodweddion a'r isadeiledd y tu ôl iddo o fygythiad parhaus y môr a'r lefelau newid hinsawdd derbyniol.
Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys newidiadau i'r traeth isaf a gwelliannau i'r promenâd, gan ei ledaenu i ddarparu mwy o wagle i gerddwyr a seiclwyr. Bydd dodrefn a goleuo stryd hefyd yn cael ei uwchraddio. Mae'r cwmni hefyd yn ychwanegu gwagleoedd chwarae a hamdden, cysgodfannau, cynwysyddion planhigion, celf gyhoeddus a gwagleoedd ar gyfer digwyddiadau.
Am fwy o wybodaeth ar y cyrsiau Adeiladu yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch gyda thîm Gwasanaethau Dysgwyr y coleg ar 01492 542 338.
Gwefan: www.gllm.ac.uk