Gwaith Tiwtor Celf a Myfyrwyr yn Cyrraedd Rownd Derfynol Genedlaethol
Mae gwaith celf gan diwtor Celf a myfyrwyr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, wedi cyrraedd rownd derfynol yng nghystadleuaeth celf genedlaethol, Creative Lives.
Mewn partneriaeth gyda Chyngor Tref Cricieth ac adran celf y coleg, mae’r myfyrwyr wedi bod yn gweithio ar brosiectau amrywiol ar draws y dref, er mwyn creu gofodau newydd er mwyn magu a meithrin yr ymdeimlad o berthyn ac o rannu profiadau, ac ymgysylltu cymunedol.
Mae hyn yn cynnwys gwaith yn y Neuadd Goffa, oedd yn dathlu ei chanmlwyddiant yn ddiweddar.
Dywedodd y Cyng. Sian Williams, Cadeirydd Cyngor Tref Cricieth:
“Rydym wedi adeiladu ar ein hanes o ymgysylltu creadigol ac wedi hwyluso nifer o brosiectau cymunedol llawn dychymyg sydd wedi cynnwys gwirfoddolwyr di-rif yn eu dylunio a’u creu. Rydym wrth ein bodd bod ein prosiectau creadigol wedi’u cydnabod gyda Gwobr Bywydau Creadigol Cymru yn 2021 a’n bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau 2022. Ni yw’r unig grŵp o Ogledd Cymru sydd ar y rhestr fer. Mae ein prosiectau, llawer mewn partneriaeth, wedi cynnwys nifer fawr o gymdeithasau gwirfoddol, ysgolion lleol, Coleg Meirion-Dwyfor, artistiaid unigol a thalentau creadigol eraill. Yn ogystal â hyrwyddo creadigrwydd maent wedi helpu i frwydro yn erbyn unigrwydd ac yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. “
Chwaraeodd myfyrwyr Celf, Celf, Coleg Meirion-Dwyfor, rhan ganolog yn y prosiect, gan weithio’n agos iawn gyda’r gymuned leol.
Dywedodd Ffion Meleri Gwyn, darlithydd celf yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli.
"Roedd yn hyfryd gweld canlyniadau'r prosiect cymunedol hwn, yn gyfle gwych i'r myfyrwyr gymryd rhan yn nathliad canmlwyddiant Neuadd Goffa Cricieth. Mae'n hynod bwysig bod cyfleoedd o'r fath yn cael eu darparu i bobol ifanc iddynt gael gweld bod ffrwyth eu llafur yn cael eu gwerthfawrogi, i gael datblygu eu sgiliau ac i brofi'r teimlad o berthyn i gymuned agos.
Bydd llwybr y canmlwyddiant yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan drigolion y fro ac ymwelwyr am flynyddoedd i ddod.”
Os hoffech chi bleidleisio i Gyngor Tref Cricieth yn ngwobrau Creative Lives, cliciwch YMA
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau Celf a Dylunio, cliciwch YMA