O'r Cae Rygbi i Radd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol!
Mae cyn seren rygbi gyda Choleg Llandrillo, fu'n llwyddiant ysgubol ar y cae chwarae, ar fin dechrau cwrs Gradd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol!
Ymunodd Jacob Collin, 22 o Broughton, ag academi rygbi'r coleg ar gampws Llandrillo-yn-Rhos yn 2015, i hyfforddi a gweithio ar gyfer ei gymhwyster academaidd ar yr un pryd. Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon.
Yn ogystal â chwarae i dîm academi'r coleg, chwaraeodd Jacob i RFC Yr Wyddgrug a thîm dan 18 RGC. Roedd Jacob yn wirfoddolwr brwd ac yn hyfforddwr chwaraeon anabledd, a bu'n cynnal sesiynau addysg gorfforol yn rheolaidd gyda grŵp o fyfyrwyr blwyddyn 10 yn Ysgol y Gogarth.Ar ôl cyfnod llewyrchus ar gaeau rygbi Gogledd Cymru, aeth Jacob ymlaen i ennill gradd (Anrh) 2:1 mewn Chwaraeon, Ymarfer Corff a Gweithgaredd Corfforol ym Mhrifysgol Durham, cyn mynd ymlaen i ddilyn cwrs ôl-radd, Gradd Meistr Mewn Cysylltiadau Rhyngwladol.
Yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol, roedd Jacob yn dal i gymryd rhan mewn mentrau cymunedol a daeth yn swyddog hyrwyddo rygbi dros Glwb Rygbi Prifysgol Durham. Fel rhan o'r rôl bu wrthi'n paratoi ac yn cyflwyno sesiynau hyfforddi mewn ysgolion lleol. Yn ogystal â hyn, gweithiodd ar raglen ehangach i gynnig cyfleodd chwaraeon i blant o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
Cymerodd ran mewn her elusennol gyda thri ffrind o'r brifysgol a chodi dros £2,000 i OddBalls Foundation, elusen sy'n codi ymwybyddiaeth o ganser y ceilliau. Cwblhaodd y criw Her y Tri Chopa mewn llai na 24 awr.
Siaradodd Jacob am ei amser yn y coleg:
"Y fantais fwyaf o gael astudio yng Ngholeg Llandrillo oedd y ffaith bod modd i mi gyflawni cymhwyster academaidd o safon (BTEC Diploma Estynedig mewn Chwaraeon) a chymryd rhan mewn rhaglen ddwys o hyfforddiant rygbi ar yr un pryd. Mae hyn yn bosib diolch yn y lle cyntaf i staff academaidd ardderchog y coleg sy'n gweithio'n ddiflino i hwyluso modiwlau strwythuredig a hwyliog."
"Yn ail roedd y cydbwysedd rhwng gwaith unigol a gwaith grŵp, ynghyd â chyflwyniadau ac asesiadau ymarferol yn rhoi'r cyfle i mi wella nifer o sgiliau pwysig. Datblygodd fy hunanhyder a fy sgiliau siarad cyhoeddus o ganlyniad uniongyrchol i'r cwrs hwn."
"Roedd yr academi rygbi yn rhan hanfodol o fy natblygiad fel chwaraewr. Diolch i'r elfen cryfhau a chyflyru - ynghyd â hyfforddi deallus gan Andrew Williams ac Afon Bagshaw - cefais sylfaen gadarn i fynd ymlaen a llwyddo ar lefel prifysgol. Rhoddir gryn bwyslais ar ddatblygu cymeriadau cyflawn yn y coleg. Mae'r academi rygbi yn cyflawni hynny ac mae nifer o gyfleodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, yn cynnwys hyfforddi a dyfarnu yn y gymuned leol. Ond yn bwysicach na dim i mi, mi wnes i gwrdd â ffrindiau da yn ystod fy nghyfnod yn yr academi sydd yn bwysig iawn i mi hyd heddiw."
Meddai Andrew Williams, Cydlynydd Academi Rygbi Coleg Llandrillo:
"Rydym wrth ein bodd gyda datblygiad arbennig Jacob. Roedd o'n fyfyriwr a chwaraewr rygbi arbennig a dw i'n siŵr bydd yn llwyddo pa bynnag lwybr ddewisith o."
I gael rhagor o wybodaeth am rygbi, neu gyrsiau chwaraeon eraill, neu leoedd yn un o academïau chwaraeon Grŵp Llandrillo Menai, ffoniwch dîm Gwasanaethau i Ddysgwyr y coleg ar 01492 542 338.
E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk
Gwefan: www.gllm.ac.uk
Web: www.gllm.ac.uk