Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llwyddiant Digwyddiad i Adeiladwyr yng Nghanolfan CIST

Daeth cyflogwyr a chynrychiolwyr o'r diwydiant adeiladu i Ganolfan Sgiliau, Isadeiledd a Thechnoleg (CIST) a Choleg Menai i gymryd rhan mewn sesiynau yn trafod y newidiadau i brentisiaethau adeiladu a chanfod gwybodaeth am gyrsiau adeiladu a'r cyllid sydd ar gael drwy Busnes@LlandrilloMenai.

Trefnwyd ymweliadau safle o'r cyfleusterau newydd yng Nghanolfan CIST a agorodd ei drysau ym mis Mehefin 2019. Mae canolfan CIST yn cynnig hyfforddiant wedi'i achredu ym maes adeiladu, mae'r rhain yn cynnwys cyrsiau NEBOSH/IOSH (Iechyd a Diogelwch), CPCS (Hyfforddiant Cerbydau Trwm), CIRS (Hyfforddiant Sgaffaldiau), PASMA (Gweithio ar Uchder), Cyrsiau Trydanol a chyrsiau ym maes Ynni Adnewyddadwy, Cymorth Cyntaf, Nwy Domestig, LPG ac Olew.

Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn i'r digwyddiad, roedd 20 o gwmnïau yn arddangos a daeth 50 o fusnesau i'r digwyddiad.

Dywedodd Gareth Hughes, Rheolwr Canolfan CIST ac Arloesedd, Grŵp Llandrillo Menai:

"Mae croesawu cymaint o gleientiaid a busnesau yn ôl i ganolfan CIST yn Llangefni ar ôl cyfnod mor hir heb ddigwyddiadau wyneb yn wyneb, wedi bod yn wych. Roedd yn gyfle arbennig i arddangos yr hyfforddiant a ddarperir gan ein partneriaid masnachol Simian Risk Management, M&P, Worcester Bosch, Islands Training Cyf, Premier Construction Training a Delyn Safety yma yn Llangefni.

"Mae'n gyfnod cyffroes i ganolfan CIST wrth i ni ehangu'r ddarpariaeth fasnachol i faes Ynni Gwyrdd Adnewyddadwy, Ôl-osod a Datgarboneiddio."

Roedd Andrew Brett, Rheolwr y Maes Rhaglen Adeiladu yng Ngholeg Menai yn brysur drwy gydol y digwyddiad yn briffio cwmnïau adeiladu a busnesau ar y newidiadau sydd i ddod ym maes prentisiaethau adeiladu. Meddai:

"O fis Medi ymlaen, bydd pob prentis yn cwblhau cymhwyster Prentisiaeth Lefel 3 mewn Adeiladu. Fel rhan o'r newid hwn bydd gofyn i gyflogwyr fonitro 'profiad a pherfformiad prentisiaid wrth eu gwaith' a llenwi Canllaw Cadarnhau Cyflogwyr i ddangos bod eu prentis wedi cwblhau'r ystod o waith angenrheidiol.

"Mae hyn yn rhywbeth newydd i bawb, felly roedd y digwyddiad heddiw yn gyfle i baratoi ar gyfer mis Medi a sicrhau bod cyflogwyr yn gwybod beth sydd angen iddynt ei wneud. Mae prentisiaethau adeiladu mor bwysig er mwyn sicrhau bod gan y rhai sy'n ymuno â'r maes y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i ddilyn llwybr gyrfa llwyddiannus."

I gael rhagor o wybodaeth am gyflogi prentis: https://www.gllm.ac.uk/apprenticeships