Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Undeb Myfyrwyr y Coleg yn cael ei enwi y Gorau yng Nghymru am y bedwaredd flwyddyn yn olynol!

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n falch o gyhoeddi bod Undeb Myfyrwyr y Coleg wedi'i enwi fel 'y gorau yng Nghymru' am y pedwerydd tro yn olynol yn seremoni wobrwyo flynyddol Gwobrau Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (UCM) Cymru yng Nghaerdydd!

Mae'r wobr 'Undeb y Flwyddyn ar gyfer Myfyrwyr Addysg Bellach yng Nghymru' yn cydnabod parhad gwaith eithriadol Undeb Myfyrwyr y Coleg am ei weithgareddau ymgyrchu ac ymgysylltu â miloedd o ddysgwyr ar 12 campws ac mewn pedair sir. Mae'r ffaith ei fod wedi cyflawni hyn yn yr hinsawdd sydd ohoni yn dyst i'w ymrwymiad a'i benderfynoldeb i brofiadau myfyrwyr.

Gwnaeth y panel beirniadu dynnu sylw at amrediad, effeithiolrwydd a pha mor gynhwysol oedd ymgyrchoedd yr Undeb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a chanmol ymroddiad Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai wrth gefnogi elusennau a chymunedau lleol.

Llwyddodd i ennill y wobr 'Undeb y Flwyddyn ar gyfer Myfyrwyr Addysg Bellach yng Nghymru' ac roedd ar y rhestr fer ar gyfer pedair gwobr arall yn erbyn prifysgolion llawer mwy, sy'n drawiadol iawn.

Cyhoeddodd Llywyddion Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai - un ym mhob coleg, sef Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Merion-Dwyfor - ar y cyd: "Rydym mor falch o'r gwaith anhygoel rydym ni wedi'i gyflawni eleni: gwella llesiant y myfyrwyr, hybu hawliau LGBTQ+ a gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.

"Mae pawb wedi gwneud gwaith gwych, a byddwn yn gweld y gwaith a ddechreuwyd gennym ni yn parhau ymhell i'r dyfodol. Mae'n wych fod y gwaith hwn wedi'i gydnabod gan UCM Cymru a'n bod ni wedi ennill y teitl ‘Undeb Myfyrwyr Addysg Bellach y Flwyddyn’ am y pedwerydd tro'n olynol."

Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau'r Dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai, Lisa Johnson: "Rydw i'n hynod o falch o waith diflino ein Hundeb Myfyrwyr. Mae agwedd 'rydym ni'n medru gwneud hyn' yr aelodau wedi'u galluogi i gyflawni pethau rhagorol ar ran ein myfyrwyr eleni. Dw i wrth fy modd bod eu gwaith wedi'i gydnabod gan UCM Cymru. Bu'n anrhydedd o'r mwyaf gweithio gyda nhw."

Cyrhaeddodd Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai restr fer y categorïau a ganlyn: y Wobr Rhyddhad a Chydraddoldeb; y Wobr Cymuned a Chydlyniad; y Wobr Aelod Staff y Flwyddyn a Gwobr Grŵp Myfyrwyr y Flwyddyn.

www.gllm.ac.uk