Coleg Glynllifon yn cefnogi Tir Dewi.
Heddiw, daeth Delyth Owen o elusen Tir Dewi draw i Goleg Glynllifon, er mwyn gosod sticeri ar fyrnau mawr (big bales) fferm y coleg, er mwyn hysbysebu gwaith yr elusen.
Gosodwyd sticeri ar fyrnau mawr y Coleg, fel modd i hysbysebu staff a myfyrwyr y Coleg o bwysigrwydd chwilio am gymorth mewn cyfnodau caled a heriol.
Dywedodd Delyth Owen, o Tir Dewi :
“Mae cael y cyfle i ddod yma i Goleg Glynllifon er mwyn siarad gyda’r myfyrwyr a staff am bwysigrwydd gwaith elusen fel TIR DEWI i’r gymuned amaethyddol yng Nghymru yn hynod o bwysig i ni. Mae’r diwydiant amaeth yn ddiwydiant arbennig i weithio ynddo, mae’r cyfleoedd yn eang, mae yna gymuned gref ar lefel gymdeithasol a phroffesiynol. Ond weithiau, mae’r diwydiant yn gallu bod yn heriol ac yn unig, a hefyd yn beryglus, felly mae cael elusen fel Tir Dewi, lle mae modd i chi ddod atom, unrhyw bryd, er mwyn trafod eich pryderon, yn bwysig iawn.”
Ychwanegodd Rhodri Manod Owen, Rheolwr Fferm Glynllifon.
“Mae’r gymuned amaethyddol yma yng ngogledd orllewin Cymru yn gymuned glos, gynnes a chefnogol, ond wedi deud hynny, weithiau mae pethau yn gallu mynd yn drech na ni. Mewn diwydiant, lle mae llawer o’r gwaith yn gallu bod yn unig, dan amgylchiadau heriol ac anodd, yn feddyliol ac yn gorfforol, mae cael elusen fel Tir Dewi yn bwysig iawn.”
Ychwanegodd.
“Wrth i’n myfyrwyr gychwyn ar eu gyrfaoedd, mae cael gwybod bod y math yma o gefnogaeth ar gael yn amhrisiadwy. Nid arwydd o wendid ydi chwilio am gymorth, ond arwydd o gryfder.”
Mae Tir Dewi yn elusen gofrestredig a sefydlwyd yn 2015 gan yr Esgob Wyn ac Arch Diacon Tŷ Ddewi yr Hybarch Eileen Davies, er mwyn cefnogi’r gymuned amaethyddol yng Ngheredigion. Ers hynny mae’r elusen wedi tyfu’n gyflym, ac yn cynnig cefnogaeth yn siroedd Penfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Powys, Conwy, Sir Fôn, Gwynedd a Gŵyr.
Am fwy o wybodaeth am waith Tir Dewi - info@tirdewi.co.uk 0800 121 47 22