Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Busnes@LlandrilloMenai yn dod i Barc Menai

Yn awr mae hyfforddiant proffesiynol a gwasanaethau dysgu seiliedig ar waith ar gael i fusnesau Gogledd Cymru yn swyddfeydd newydd Busnes@LlandrilloMenai ym Mharc Menai, Bangor.

Dyma'r tro cyntaf i Busnes@LlandrilloMenai – braich fusnes Grŵp Llandrillo Menai – gael canolfan fusnes bwrpasol sydd wedi'i lleoli ochr yn ochr â'r gymuned fusnes ym Mangor.

Fel yr esbonia Uwch Gyfarwyddwr, Datblygiadau Masnachol Busnes@LlandrilloMenai, Paul Bevan:

"Mae'r safle newydd hwn yn rhoi cyfle i ni roi mwy o gefnogaeth i fusnesau a datblygu hyd yn oed mwy o gyrsiau. Ym Mharc Menai rydym yng nghanol y gymuned fusnes, a chan ein bod yn agos i'r A55 rydym yn gyfleus hefyd i fusnesau sydd ymhellach oddi wrthym. Yn bwysicach na dim, mae gennym ganolfan bwrpasol i gwrdd â busnesau i drafod eu hanghenion, i ddarparu hyfforddiant, ac i gefnogi ein prentisiaid a'n myfyrwyr.

"Mae Busnes@LlandrilloMenai yn darparu hyfforddiant proffesiynol ac achrededig, prentisiaethau a chymwysterau dysgu seiliedig ar waith eraill. Yn ogystal â darparu hyfforddiant proffesiynol, bydd y lleoliad newydd yn ganolfan ar gyfer cefnogi prentisiaid."

Ychwanegodd Rhianwen Edwards, Cyfarwyddwr Dysgu Masnachol a Seiliedig ar Waith:

"Mae gennym yn awr ganolfan bwrpasol i addysgu a chwrdd â'n prentisiaid a'n dysgwyr. Mae llawer o'n dysgwyr yn mynychu gwersi ar gyfer agweddau theori a gwybodaeth eu rhaglenni, ac yn lleoliad gwych Parc Menai ceir ystafelloedd sydd wedi'u cynllunio'n bwrpasol ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb."

Yn ystod y pandemig roedd llawer o'r hyfforddiant yn cael ei gynnal ar-lein gan diwtoriaid a darlithwyr profiadol, a bydd Busnes@LlandrilloMenai yn parhau i weithio gyda chleientiaid i ddarparu hyfforddiant mewn ffordd hyblyg a chyfleus, boed ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Er mwyn ymateb i Covid-19, mae cymorth ariannol ar gael ar hyn o bryd ar gyfer amrediad eang o gyrsiau hyfforddi. I drafod eich anghenion ac i weld a ydych yn gymwys i gael cyllid, cysylltwch â busnes@gllm.ac.uk neu ffoniwch 08445 460 460.