Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Aelod o dîm Coleg Menai yn cwblhau cyfres o heriau i godi arian dros elusennau

Mae aelod o staff Coleg Menai wedi codi miloedd o bunnoedd dros nifer o elusennau drwy gyflawni cyfres o heriau, a hynny ar ôl brwydr lwyddiannus ei ferch yn erbyn canser.

Mae Tony Fitzmaurice, aseswr yn yr adran dysgu seiliedig ar waith yn adran Lletygarwch ac Arlwyo'r coleg, yn rhedwr brwd ac fe gwblhaodd nifer o heriau athletaidd.

Yn 2019, cafodd Maisy, merch 10 oed Tony, ddiagnosis o Ganser celloedd cenhedlu'r ofari, cam 4. Yn dilyn misoedd o gemotherapi a sawl llawdriniaeth, derbyniodd Maisy newyddion ardderchog bod y canser wedi mynd!

Eglurodd Tony: "Yn ystod ei salwch, cawsom gymorth gan nifer o elusennau, sefydliadau a phobl eraill gyda nifer o bethau gwahanol i wneud ein bywyd yn haws. Mi wnes i addewid bryd hynny y baswn i'n mynd ati i godi arian mewn rhyw ffordd neu'i gilydd dros yr elusennau a sefydliadau a gefnogodd Maisy."

Mae dau o heriau mwyaf diweddar Tony yn cynnwys cwblhau her 4x4x48 Goggins a hanner marathon Ynys Môn.

Dywedodd: "Ar ôl gorffen gwaith dydd Gwener 4 Mawrth, dechreuais gymal cyntaf Her Goggins a rhedeg 4.4 milltir bob 4 awr, a pharhau â'r patrwm tan 4am bore dydd Sul. Yna, es i i Borthaethwy i redeg yr hanner marathon. Ac mi wnes i hyn ar ôl tua dwy awr o gwsg."

Dechreuodd Tony godi arian yn ôl ym mis Mawrth 2021 gan gwblhau ei her Goggins cyntaf a chodi £2,600 dros Ymchwil Canser. Yna aeth i redeg ym Marathon Lerpwl a chodi £920 dros Sefydliad Owen McVeigh. Cododd ei her fwyaf diweddar dros £560 dros Ysbyty Plant Alder Hay. I grynhoi, mae wedi codi dros £4,000 dros nifer o elusennau gwahanol ers mis Mawrth diwethaf.

Gofynnwyd iddo sut roedd yn teimlo ar ôl cwblhau ei her ddiweddaraf ac meddai Tony: 'Dydw i erioed wedi teimlo mor flinedig yn gorfforol ac yn emosiynol, a dw i wedi profi sawl her galed pan oeddwn i'n aelod o'r lluoedd. Ond yr hyn roeddwn i'n meddwl amdano bob amser yn ystod yr heriau oedd y rheswm dros wneud hyn, ac roeddwn i'n dweud wrth fy hun 'dwyt ti ddim yn gwybod beth gelli di gyflawni hyd nes byddi di'n gwthio dy hun tu hwnt i dy ffiniau'.

Dechreuodd Tony ar her bersonol ei hun yn 2020. Yn dilyn cyhoeddi'r cyfnod clo, dechreuodd fwynhau cerdded rhagor ac fe drodd hyn yn frwdfrydedd dros redeg. Collodd dros chwe stôn yn ystod y cyfnod hwnnw a gwyrdroi clefyd diabetes oedd arno.

Ar ôl canfod cariad newydd at redeg, eglurodd Tony: "Roeddwn i'n gwybod o'r eiliad honno fy mod i'n barod i ddechrau cyflawni heriau i godi arian dros nifer o'r elusennau/sefydliadau roddodd gymorth i ni yn ystod salwch Maisy."

Fydd o ddim yn aros yn segur yn hir, mae Tony eisoes yn chwilio am syniadau ar gyfer ei her codi arian nesaf.