Mae cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol wedi canfod ffordd arall o ysbrydoli pobl ifanc ar ôl ffeirio 'r cae chwarae am yr ystafell ddosbarth
Nawr mae Jennifer Davies yn gweithio fel arweinydd rhaglen ar gwrs Gwasanaethau Cyhoeddus Lifrog Coleg Menai, yn addysgu a rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n gweithio tuag at ennill eu Diploma Lefel 3. Mae Jennifer yn addysgu myfyrwyr ar gyfer y cymhwyster, ochr yn ochr â chymwysterau ychwanegol, sy'n hyrwyddo datblygiad sgiliau ehangach dysgwyr.
Cynlluniwyd y cwrs i baratoi dysgwyr ar gyfer gweithio yn y Lluoedd Arfog, yr Heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans, y Gwasanaeth Tân, y Gwasanaeth Carchardai, sefydliadau cymunedol a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â'r gwasanaethau brys ac mae profiadau Jennifer yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.
Enillodd ei chap rhyngwladol cyntaf yn 21 oed, a mynd ymlaen i hawlio 73 arall o gapiau Cymru yn y rhes flaen. Yn ystod ei gyrfa fel chwaraewr rhyngwladol bu'n aelod o'r sgwadiau Chwe Gwlad rhwng 2003 a 2015 ac roedd yn aelod o'r tîm a enillodd y Goron Driphlyg yn 2019!
Cafodd Jennifer ei magu yn Aberhonddu a dechreuodd chwarae rygbi'r undeb yn Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd cyn mynd ymlaen i chwarae'n rhanbarthol a dechrau gyrfa a'i gwelodd yn datblygu i fod yn un o aelodau rheolaidd y tîm cenedlaethol.
Ar ôl cwblhau ei gradd symudodd i Ogledd Cymru yn dilyn derbyn ei swydd gyntaf fel Swyddog Datblygu Rygbi Menywod a Genethod gydag Undeb Rygbi Cymru.
Yn y swydd hon roedd Jennifer yn Gydlynydd Rhaglen Ranbarthol Rygbi Gogledd Cymru ble datblygodd ei sgiliau hyfforddi ac ennill ei chymhwyster Hyfforddi Rygbi Lefel 3, a daeth yn Addysgwr Cwrs Hyfforddi Undeb Rygbi Cymru ar gyfer hyfforddwyr a dyfarnwyr Undeb Rygbi Cymru.
Dilëwyd y swydd Swyddog Datblygu Menywod a Genethod Undeb Rygbi Cymru yn 2005 a phenodwyd Jennifer i swydd llawn amser yng Ngholeg Menai.
Dechreuodd addysgu yn 2005 yng Ngholeg Menai, coleg addysg bellach ac uwch ym Mangor.
Mae hi'n mwynhau gwneud gwahaniaeth i fywydau'r myfyrwyr, a'u gweld yn gwneud cynnydd ar ôl bob gwers, bob tymor a phob blwyddyn.
Dywedodd: "Dw i wrth fy modd efo her! Rhai dyddiau mae fy swydd yn fwy heriol nag eraill, ond fyddwn i ddim yn ei newid. Rydw i'n hoffi gwylio dysgwyr yn tyfu a'u cefnogi i wneud eu dewisiadau (personol ac o ran eu gyrfa), a helpu i'w llywio tuag at y penderfyniad cywir. Mae'n rhoi boddhad mawr i mi fedru rhoi cymorth a chefnogaeth iddyn nhw ar eu taith a'u gweld yn ffynnu fel unigolion."
Bu Jennifer yn hyfforddwr a rheolwr tîm rygbi merched Colegau Cymru hefyd ac mae wedi cefnogi llawer o ferched i dderbyn eu capiau rhyngwladol Colegau Cymru cyn mynd ymlaen i gael capiau rhyngwladol fel aelod Tîm Rygbi Merched Cymru.
Mae'n rhan bwysig o raglen lwyddiannus Academi Menai a gynhelir gan Goleg Menai, sy'n rhoi cyfle i ddysgwyr o bob cwrs gymryd rhan mewn chwaraeon yn ogystal â'u cwrs galwedigaethol, gyda gemau wythnosol yng Nghymru a gogledd orllewin Lloegr.
Academi Menai - Grŵp Llandrillo Menai
Mae'n llwyddo i ganfod cydbwysedd rhwng gweithio'n llawn amser fel tiwtor a hyfforddi tîm Rygbi Merched Cyntaf Caernarfon a dyfarnu mewn gemau rygbi ar y penwythnos.
Ychwanegodd Jennifer: "Dw i'n credu ei bod yn hanfodol bwysig eich bod yn defnyddio'r hyn rydych chi'n angerddol amdano i annog myfyrwyr i gredu bod unrhyw beth yn bosibl! Trosglwyddwch eich angerdd!"
Mae Jennifer yn gobeithio cwblhau ei chwrs Hyfforddwr Hyfforddiant Personol ac ennill dyfarniad Arweinydd Iseldir ar gyfer arwain teithiau cerdded eleni i gyfoethogi ei sgiliau, a'i chynorthwyo i roi rhagor o gefnogaeth i ddysgwyr yng Ngholeg Menai.
Hoffech chi gael gyrfa yn y gwasanaethau cyhoeddus lifrog?