Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Yr Wythnos Iaith Arwyddion Fwyaf Llwyddiannus Eto yn y Coleg

Roedd yr wythnos mor llwyddiannus fel bod cyrsiau Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Grŵp Llandrillo Menai bron yn llawn am yr haf

Mae Coleg Llandrillo wedi cynnal ei ddigwyddiad mwyaf llwyddiannus eto i ddathlu Wythnos Iaith Arwyddion.

⁠Rhwng 18 a 24 Mawrth, cynhaliodd y coleg sesiynau rhagflas, cystadlaethau a gweithgareddau eraill i nodi'r wythnos.

Roedd yr wythnos mor llwyddiannus fel bod cyrsiau Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Grŵp Llandrillo Menai bron yn llawn am yr haf, gyda dim ond ychydig o lefydd ar ôl yng Ngholeg Llandrillo a Choleg Menai.

Bwriad Wythnos Iaith Arwyddion yw codi ymwybyddiaeth o Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ac Iaith Arwyddion Iwerddon. Mae'n cael ei dathlu ym mis Mawrth bob blwyddyn i gofio'r tro cyntaf i BSL gael ei chydnabod yn iaith swyddogol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 18 Mawrth 2003.

I nodi’r achlysur, trefnwyd amrywiaeth o weithgareddau ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Creodd y dysgwyr fideos o'u hoff arwyddion i'w rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, ac roedd yna hefyd ddigwyddiad penodol i staff fel eu bod yn gallu dod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio BSL.

Daeth dros 40 o staff a myfyrwyr i'r stondin yn y dderbynfa i ddysgu gwahanol arwyddion, gan gynnwys sut i sillafu eu henw eu hunain gan ddefnyddio gwyddor BSL.

Cynhaliwyd trafodaethau a sesiynau holi ac ateb, dwy sgwrs ar-lein ar BSL gyda Chymdeithas y Swyddogion Carchar, a thair awr o sesiwn rhagflas i bobl sy'n gweithio i'r gwasanaeth cyfiawnder.

Roedd llyfrau am iaith arwyddion a materion yn ymwneud â byddardod yn cael eu harddangos yn llyfrgelloedd y coleg, a chynhaliwyd cystadleuaeth i ddyfalu ers pryd roedd BSL wedi cael ei ddysgu yn y coleg.

Dywedodd Abi Woodyear, Cydlynydd Astudiaethau Byddardod Grŵp Llandrillo Menai, ⁠“Roedd pawb wedi synnu o glywed ein bod wedi bod yn dysgu BSL ers 1989!”

Ychwanegodd: “Hwn oedd ein digwyddiad mwyaf llwyddiannus eto i ddathlu wythnos Iaith Arwyddion Prydain, ac roedd yn wych gweld ein myfyrwyr yn cymryd rhan ac yn rhannu eu fideos o eiriau ac ymadroddion BSL.

“Rydyn ni'n awr yn paratoi at yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod (6 - 12 Mai) sy'n edrych yn ehangach ar faterion yn ymwneud â byddardod.”

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig y cwrs Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain yng Ngholeg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos ac yng Ngholeg Menai ym Mangor. Mae'r ddau gwrs yn rhad ac am ddim.

Mae ychydig o lefydd ar ôl ar y cwrs haf ym Mangor, a ddechreuodd ar 12 Ebrill. Mae yna hefyd ddau le ar y cwrs yng Ngholeg Llandrillo, a ddechreuodd ar Ebrill 9.

Mae'r cwrs yn meithrin dealltwriaeth dysgwyr o fyddardod ac yn datblygu eu sgiliau arwyddo. Bydd hefyd yn tawelu unrhyw bryderon a all fod gan ddysgwyr wrth gwrdd â phobl fyddar a thrwm eu clyw.

Mae Coleg Llandrillo yn cynnig cyrsiau Iaith Arwyddion Prydain hyd at Lefel 4.

  • Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru ar y cwrs Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain naill ai yng Ngholeg Llandrillo neu Goleg Menai, cysylltwch â a.woodyear@gllm.ac.uk
  • I weld yr holl gyrsiau Iaith Arwyddion ac Astudiaethau Byddardod sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ewch i gllm.ac.uk a chwilio am ‘iaith arwyddion’