Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Seremoni Wobrwyo Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Ngrŵp Llandrillo Menai

Enillodd dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai 31 medal – mewn 17 categori gwahanol – yn seremoni flynyddol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru'r wythnos diwethaf.

Cynhaliodd y Grŵp ddigwyddiad lloeren ar ei gampws yn Llangefni, ac yno gwobrwywyd y dysgwyr am eu doniau a'u gwaith caled y Prif Weithredwr, Dafydd Evans, a chynrychiolwyr o Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau oedd yn cyhoeddi'r canlyniadau mewn seremoni ar-lein.

Roedd cystadleuwyr o bob cwr o Gymru'n gwylio'r seremoni wobrwyo rithwir er mwyn cael clywed y canlyniadau. Eleni, er mwyn i deulu a ffrindiau allu ymuno'n fyw â'r cyffro, roedd y seremoni'r wobrwyo'n cael ei chynnal yn rhithwir mewn chwe digwyddiad lloeren mewn colegau ledled y wlad!

Enillodd dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai 13 medal aur mewn gwahanol gategorïau: Cyfrifeg, plymio a gwresogi, roboteg ddiwydiannol, ail-orffennu cerbydau, weldio, her tîm gweithgynhyrchu a sgiliau cynhwysol gofal plant.

Eleni, cymerodd 91 dysgwr o Grŵp Llandrillo Menai ran yng nghystadlaethau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru gan ennill 31 medal mewn 17 categori gwahanol.
O ganlyniad, daeth y Grŵp yn drydydd o blith holl golegau Cymru yn y tabl medalau.

Yn dilyn rownd arall o geisiadau, fe all yr enillwyr fynd ymlaen i gystadlu ar lefel genedlaethol a rhyngwladol yng nghystadlaethau WorldSkills UK, EuroSkills a WorldSkills.

Yn y digwyddiad lloeren yn Llangefni daeth dros 120 o bobl ynghyd i ddathlu llwyddiant y dysgwyr. Diddanodd myfyrwyr yr adran Technoleg Cerddoriaeth y dorf gyda cherddoriaeth acwstig byw tra oedd y gwahoddedigion yn mwynhau te pnawn mewn bocs.

Estynnodd Dafydd Evans ei longyfarchiadau i bawb a gymerodd ran gan ddweud bod safon y gystadleuaeth yn parhau i godi. Ychwanegodd: "Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae ein myfyrwyr yn ymdrechu i wella, ac mae cystadlaethau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru'n brawf o'r hyn y gallant ei gyflawni drwy waith caled a dyfalbarhad."

"Mae llwyddo ar y lefel hon, ac ennill medalau mewn meysydd mor amrywiol yn dangos i'r dim pa mor dalentog yw ein myfyrwyr. Roedd yn fraint wirioneddol cael bod yn rhan o Seremoni Gwobrau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru."

Yr Aelod o Senedd Cymru, Rhun ap Iorwerth, oedd y gŵr gwadd yn Llangefni ac fe dalodd deyrnged i bawb oedd wedi cyfrannu am eu sgiliau a'u hymrwymiad i'r gystadleuaeth.

Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i rhedeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, drwy'r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau, mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru'n anelu at ysbrydoli a gwella sgiliau cenedlaethau 'r dyfodol drwy ddatblygu sgiliau galwedigaethol pobl ifanc a dathlu eu cyflawniadau.

Roedd y categorïau eraill yn cynnwys cerddoriaeth boblogaidd, gwaith saer, peirianneg fecanyddol CAD, electroneg ddiwydiannol, technoleg cerbydau ysgafn, melino CNC, iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau bwyty.

I gael rhagor o wybodaeth am Gystadleuaeth Sgiliau Cymru ac i gael cyfle i gynrychioli eich gwlad yn 2023, ewch i https://inspiringskills.gov.wales/