Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Colegol yn Darparu Podiau i Fyfyrwyr sydd Angen Llefydd Tawel

Mae Grŵp Llandrillo Menai ymhlith y grwpiau colegol cyntaf yng Nghymru i ddarparu podiau ar bob un o'i gampysau i fyfyrwyr er mwy iddynt ymneilltuo unrhyw bryd y cânt eu llethu a phan fyddant yn teimlo bod arnynt angen lle tawel.

Roedd staff o'r adrannau Cymorth Dysgu wedi dechrau sylwi yng nghynlluniau cymorth myfyrwyr (yr adran adborth gan fyfyrwyr) bod nifer gynyddol o ddysgwyr yn dweud bod arnynt angen lle tawel i ymneilltuo iddo, ac roedd y staff yn awyddus i ymateb i anghenion yr unigolion hyn.

Yn swyddogol, gall unrhyw fyfyriwr ddefnyddio'r podiau, ond yn bennaf, maent i fyfyrwyr sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig neu fyfyrwyr sydd ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol. Mae'r podiau gwyrdd a llwyd yn cynnwys dwy neu bedair sedd ac fe'u hariannwyd gan grant Lles a roddwyd gan Lywodraeth Cymru yn sgil Covid-19.

Eu diben yw darparu llefydd tawel a distaw i ddysgwyr. Anogir dysgwyr i wneud dim ond eistedd ac ymlacio - mae'n bosibl bod eu mentoriaid wedi dysgu technegau ymdawelu i rai. Yn ogystal, gall y podiau fod yn llefydd preifat ar gyfer sesiynau un-i-un gyda dysgwyr. Ar y cyfan, maent yn yr ardaloedd cymorth dysgu, ond ar rai campysau maent yn y llyfrgelloedd a'r adrannau gwasanaeth i ddysgwyr.

Dywedodd Elin Jones, un o fentoriaid awtistiaeth y coleg: “Mae'r podiau yma'n syniad mor syml, ac mi fyddan nhw'n llesol iawn i'r myfyrwyr. Mae gwybod bod ganddynt lefydd diogel i fynd iddynt pan fydd pethau'n mynd yn ormod, pan fyddant yn teimlo dan bwysau, neu pan fydd arnynt angen pum munud ar eu pen eu hunain, yn gysur mawr i'n dysgwyr. Mi allan' nhw fyd i eistedd yn y podiau, sy'n cau allan y pethau sy'n eu cynhyrfu, heb orfod siarad nag edrych ar neb.

"Mae rhai myfyrwyr yn dueddol o fynd i guddio pan na fyddan' nhw eisiau wynebu rhywbeth. Bydd y llefydd yma'n hafan iddyn nhw a bydd yn haws i ni ddod o hyd iddynt nhw er mwyn cael gair tawel efo nhw ynglŷn â beth sy'n achosi'r straen neu'r pryder."

www.gllm.ac.uk

Staff from the Learning Support departments began to notice on student support plans (feedback from students) that an increased number of learners were requesting the need for a quiet place to go to, and staff were keen to react to the needs of these individuals.

The pods are officially available for all learners to access, but are mainly for students with Autistic Spectrum Disorder (ASD) or Behavioural, Emotional and Social Difficulties (BESDs). There are a combination of 2 and 4-seater pods (green and grey in colour), and they were funded by a Covid well-being grant from the Welsh government.

Their purpose is to provide quiet and low stimulus spaces for learners. Students are encouraged to just sit and relax - some may have learnt calming techniques by their mentors. The pods can also act as more private areas for one-to-one sessions with learners. They are generally located within learning support areas, but at some campuses they are located in libraries and learner service departments.

One of the college’s autism mentors, Elin Jones, said: “These pods are such a simple idea, and will benefit the students greatly. Having safe spaces to go to when feeling overwhelmed, at a heightened state of stress, or just in need of five minutes time out, is immensely reassuring for our learners. They can go sit in the pods, which close off triggers, without needing to talk or look at anyone.

“Some students tend to go and hide when they don’t want to face certain things. These areas will be safe havens for them, and will give us a better chance of locating them so that we can discuss with them calmly about what’s causing the stress or anxiety.”

www.gllm.ac.uk