Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr Mynediad i Addysg Uwch yn cipio gwobr Myfyriwr Cenedlaethol y Flwyddyn

Mae Kelly Osbourne, sydd newydd gwbwlhau’r cwrs Mynediad i Addysg Uwch yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, wedi ennill gwobr Myfyriwr y Flwyddyn gan Agored Cymru.

Cwblhaodd Kelly, sydd bellach yn astudio Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor, Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd) yn ystod 2022, ar gampws Pwllheli.

Derbyniodd Kelly wobr fawreddog Agored Cymru am y darn o waith gorau a gyflwynwyd i’r corff dyfarnu, mewn seremoni yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn ddiweddar.

Dywedodd Victor Morgan, Rheolwr Mynediad i Addysg Uwch yn Agored Cymru,

"Dangosodd Kelly ragoriaeth ym mhob agwedd o'i gwaith, ac roedd o safon llawer uwch na'r hyn sy'n gyffredin. Ac er bod y wobr hon wedi bodoli ers nifer o flynyddoedd bellach, mae gwaith Kelly yn sefyll gyda'r gorau a fu erioed."

Nod y Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch yng Nghymru yw darparu'r sgiliau angenrheidiol i fynd ymlaen i ddilyn rhaglen addysg uwch yn llwyddiannus. Maent wedi'u bwriadu ar gyfer dysgwyr sydd wedi cael profiad bywyd sylweddol ers iddynt gwblhau eu haddysg orfodol.

Mae'r Diploma mewn Gofal Iechyd yn cynnwys pynciau cysylltiedig ag iechyd mewn meysydd fel Anatomeg a Ffisioleg, Cemeg, Microbioleg, Seicoleg ac Iechyd.

Dywedodd Euros Wyn Hughes, Rheolwr Maes Rhaglen Iechyd a Gofal yng Ngholeg Meirion-Dwyfor,

“Mae’r coleg yn hynod falch o lwyddiant ysgubol Kelly. Mae’n amlwg o wrando ar yr hyn oedd gan feirniad y gystadleuaeth i’w ddweud am waith Kelly, ei bod nid yn unig wedi cyrraedd y safon, ond hefyd wedi saernïo darn o waith sy’n rhagori ar yr holl ddisgwyliadau.”

Ychwanegodd,

"Diolch i'r cymhwyster Mynediad i Addysg Uwch, mae Kelly bellach yn dilyn un o'r cyrsiau prifysgol mwyaf cystadleuol - Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn falch iawn o allu cynnig y cwrs hwn, ac yn falch o weld ein cyn-fyfyrwyr yn rhagori mewn gyrfaoedd fewn gofal iechyd”.

I ddysgu mwy am y cwrs hwn, cliciwch yma.