Cyn Fyfyriwr Lefel A yn Ennill Gwobr Arian ym Maes Ffiseg
Mae cyn-fyfyriwr o Goleg Menai wedi ennill gwobr arian ym maes ffiseg ar ôl cyflwyno ei hymchwil yn y Senedd yn Llundain fel rhan o gystadleuaeth STEM for Britain.
Mae Laura Hanks, a astudiodd gyrsiau Lefel A Ffiseg, Mathemateg, Cemeg a Bioleg ar gampws y coleg ym Mangor, bellach yn gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethuriaeth mewn Ffiseg, ym Mhrifysgol Caerhirfryn.
Cyflwynodd Laura ei hymchwil, yn dwyn y teitl “Sensing at Your Fingertips: A Path to Spectrally Selective Infrared Detectors for You and Your Environment”, yn y digwyddiad Seneddol a gynhaliwyd yn ystod mis Mawrth.
Mae ‘STEM for Britain’ yn gystadleuaeth ‘poster gwyddonol’ fawr, ac yn arddangosfa, sydd wedi’i chynnal yn y Senedd ers 1997, ac sy’n cael ei threfnu gan y Pwyllgor Seneddol a Gwyddonol. Nod y digwyddiad yw codi proffil ymchwilwyr cyfnod cynnar y DU yn San Steffan, drwy ymgysylltu aelodau o ddau Dŷ’r Senedd â’r ymchwil gwyddoniaeth, peirianneg a mathemateg cyfredol sy’n cael ei wneud yn y DU.
Yn dilyn ei chyfnod yn y coleg, llwyddodd Laura i gael lle ym Mhrifysgol Caerdydd i astudio Ffiseg gyda Gradd Meistr integredig. Symudodd ymlaen wedyn i astudio PhD ym Mhrifysgol Caerhirfryn, lle mae bellach yn gweithio fel Uwch Gydymaith Ymchwil.
Mae gwaith Laura yn cynnwys monitro gwahanol fetrigau iechyd, megis glwcos yn y gwaed, a allai alluogi pobl i fonitro eu hiechyd eu hunain gartref.
Dywedodd Bethan Lloyd Owen-Hughes, Rheolwr Maes Rhaglen Safon Uwch yng Ngholeg Menai:
“Rydyn ni’n hynod falch o lwyddiant Laura, mae hi’n fodel rôl wych i’n myfyrwyr gwyddoniaeth presennol sy’n gobeithio mynd ymlaen i wneud pethau tebyg ar ôl eu cyfnod yn y coleg!”
“Mae’r buddsoddiad gwerth miliynau diweddar yn ein campysau yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael eu haddysgu yn defnyddio labordai o safon diwydiant – gan eu paratoi ar gyfer gyrfa STEM lwyddiannus”
Ychwanegodd,
“Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i Laura wrth iddi barhau i wneud ymchwil mewn maes o ffiseg sydd mor ddylanwadol. Rydyn ni yng Ngholeg Menai yn edrych ymlaen at glywed beth fydd ganddi ar y gweill nesaf.”
Dywedodd Laura:
“Roedd y digwyddiad yn y Senedd yn gyfle gwych i gamu allan o’r hyn sydd fel arfer yn swigen gymdeithasol fach o bobl sy’n gwybod yn union beth rydych chi’n ei wneud, a thrafod eich ymchwil mewn cyd-destun llawer ehangach. Roedd yn brofiad unigryw."
“Cefais fy ysbrydoli'n fawr gan fy narlithydd cemeg a ffiseg yn ystod fy amser yng Ngholeg Menai. Roedd yn wych am egluro pob math o gysyniadau, a byddai’n eu hymarfer a’u harddangos nes eu bod yn ail natur i ni.”
“Mae fy ymchwil presennol yn canolbwyntio’n bennaf ar ddylunio a datblygu synwyryddion isgoch ar gyfer amrywiaeth o ddefnydd. Gellir defnyddio synwyryddion isgoch i; didoli plastigion i'w hailgylchu, monitro methan a charbon deuocsid yn ogystal â mesur glwcos yn y gwaed heb dorri'r croen. Rydyn ni'n gobeithio am fyd lle mae pob un o'r synwyryddion hyn wedi'u cynnwys mewn ffôn neu oriawr glyfar, ac ar gael i bawb. Gall synwyryddion isgoch gael eu defnyddio mewn sawl ffordd a allai gael effaith gymdeithasol, ond mae angen mwy o bobl arnom i'n helpu i ymchwilio!”