Miloedd o Fyfyrwyr yn Dychwelyd i'r Ystafell Ddosbarth
Ar ôl misoedd o ansicrwydd ac ynysu rhithwir, mae miloedd o fyfyrwyr ar ddeuddeg campws Grŵp Llandrillo Menai yn falch iawn o fod yn dychwelyd i'w hystafelloedd dosbarth yr wythnos hon a chael cyfle i weld eu ffrindiau unwaith eto.
Mae llawer o'r cyrsiau eisoes yn llawn, ond yn ôl yr uwch reolwyr, mae ambell le ar ôl, felly mae'n dal yn bosibl dod o hyd i gwrs os cysylltwch â'ch coleg lleol.
Mae'r staff wedi sylwi ar ysbryd gobeithiol y dysgwyr wrth iddynt ddychwelyd i'r 'normal newydd' a dod o hyd i'w ffordd o gwmpas y systemau unffordd. Mae eu parodrwydd i gydymffurfio â chais y coleg iddynt barhau i gadw pellter cymdeithasol ac i wisgo gorchuddion wyneb os yw'n bosibl mewn mannau cymunedol wedi bod yn galonogol iawn.
Ar ddechrau blwyddyn academaidd mae myfyrwyr newydd Grŵp Llandrillo Menai fel arfer yn mwynhau Ffeiriau'r Glas ar bob campws. Yma cânt gyfle i gyfarfod â staff a myfyrwyr eraill, ac i siarad gyda chynrychiolwyr busnesau, clybiau ac elusennau lleol a chenedlaethol sy'n helpu'r myfyrwyr i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y coleg.
Oherwydd yr amgylchiadau presennol, nid oedd hyn yn bosibl. Ond gwnaeth y Grŵp yn siŵr nad oedd y glas fyfyrwyr yn cael cam eleni drwy drefnu Ffeiriau rhithwir yng Ngholeg Llandrillo, Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai. Yma, roeddent yn gallu dod o hyd i wybodaeth am wasanaethau a gweithgareddau'r coleg yn ogystal â gwybodaeth am weithgareddau sefydliadau allanol.
Roedd gwybodaeth ar gael am Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai – enillydd gwobr Undeb Myfyrwyr AB y Flwyddyn yn 2018, 2019 a 2020.Roedd cyfle i'r myfyrwyr gael gwybodaeth hefyd am elusen swyddogol Grŵp Llandrillo Menai am 2021/22 (Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru); lles a llesiant; academïau chwaraeon niferus y coleg; cyngor gyrfaol; canolfannau adnoddau dysgu; cyfleoedd mentergarwch... ac ati, ac ati.
Mae Manon Roberts o Benrhosgarnedd sy'n fam i blentyn dwyflwydd a hanner a babi chwe mis wedi cofrestru ar y cwrs diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gwyddoniaeth). Ar ben hyn, mae hi hefyd yn radiograffydd! Dywed ei bod yn "mwynhau cael coffi ar y campws, a bod hyn yn help gyda'r nosweithiau digwsg!"
Mae Sophie Davies o Gyffordd Llandudno yn dychwelyd i'r coleg ar ôl saib o chwe blynedd, a bydd yn cyfuno'i hastudiaethau â'r gwaith o ofalu am ei phlentyn deunaw mis. Mae Sophie – a astudiodd Fusnes yn y gorffennol ac a enillodd gwobr 'Cyflawnwr y Flwyddyn ym maes Busnes' – yn awr yn dilyn cwrs Chwaraeon a'i gobaith yw bod yn athrawes Addysg Gorfforol.
Roedd Cai Williams o Lanrhaeadr ger Dinbych yn "teimlo'n gyffrous ond ychydig yn nerfus" wrth ddechrau'r cwrs Diploma Lefel 1 City & Guilds mewn Cyflwyniad i Goginio Proffesiynol. Mae'n gobeithio symud ymlaen i'r cwrs Lefel 2 ar ôl gorffen y 12 mis cychwynnol. Mae wrth ei fodd yn pobi a'i nod yw agor ei dŷ bwyta ei hun ryw ddiwrnod.
Drwy gydol y pandemig, mae Grŵp Llandrillo Menai wedi rhoi blaenoriaeth i les ei staff a'i fyfyrwyr. Mae'r sefydliad yn cynllunio ar gyfer y cyfnod nesaf yn ofalus iawn wrth i filoedd o ddysgwyr ac aelodau staff ddychwelyd i safleoedd y coleg.
Er bod y canllawiau cenedlaethol wedi llacio ychydig, mae'r Grŵp wedi gweithio'n eithriadol o galed dros yr haf i roi mesurau ar waith i barhau i gadw pawb yn ddiogel, ac i sicrhau ei fod yn dal i fod yn sefydliad 'diogel rhag Covid' dros y misoedd nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ychydig leoedd sydd ar ôl, ewch i'r wefan: www.gllm.ac.uk neu ffoniwch y llinell cyngor ar gyrsiau ar 01492 542 338 yn achos Coleg Llandrillo, 01758 701 385 yn achos Coleg Meirion-Dwyfor, a 01248 383 333 yn achos Coleg Menai.