Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwobr Ysbrydoli i fam ysbrydoledig

Mae myfyrwraig o Goleg Llandrillo, oedd yn absennol yn aml o'r ysgol oherwydd bwlio, wedi derbyn gwobr fel cydnabyddiaeth am ei hymroddiad ar ôl dychwelyd i fyd addysg.

Mae Bethan Humphreys, 40 oed, wedi bod yn astudio yng Ngholeg Llandrillo ers nifer o flynyddoedd. Pan oedd hi yn yr ysgol, cafodd ei bwlio am fod dros ei phwysau. Daeth i gasáu’r ysgol oherwydd hynny a gadawodd yr ysgol heb basio TGAU mewn Mathemateg.

Wedi cyfnod anodd yn dioddef o iselder a gorbryder, penderfynodd Bethan ddychwelyd i fyd addysg fel oedolyn. Dilynodd wersi Mathemateg a Saesneg ac ennill cymwysterau mynediad, ac yna mynd ymlaen i gyflawni tystysgrif Sgiliau Hanfodol ar gyfer Gwaith a Bywyd.

Mae Bethan yn dilyn cwrs NVQ erbyn hyn er mwyn bod yn gynorthwyydd dosbarth ac mae wedi ennill gwobr Ysbrydoli! yn y categori Sgiliau Hanfodol ar gyfer Bywyd o ganlyniad i'w hymroddiad i ddysgu. Mae Bethan yn un o'r 13 dysgwr i dderbyn cydnabyddiaeth yng ngwobrau Ysbrydoli! 2022. Cydlynir y gwobrau gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae gwobrau Ysbrydoli! yn cydnabod y rhai sydd wedi arddangos ymroddiad i barhau â dysgu. Mae pob enillydd gwobrau Ysbrydoli! yn dangos sut gall parhau i ddilyn cwrs addysg gynnig ail gyfle, feithrin hyder a chynorthwyo cymunedau i fod yn hyfyw a llwyddiannus.

Yn ogystal â dioddef bwlio, wynebodd Bethau nifer o heriau yn ystod ei bywyd; ganwyd ei merch gyda hypoplasia ar ei bawd, ac yna yn 2020, daeth llifogydd i'w chartref. Dioddefodd bwl gorbryder difrifol hefyd, a arweiniodd at gymryd tri mis o'i gwaith, ond roedd hi'n benderfynol o barhau i astudio.

Dywedodd Bethan: "Roedd yn rhaid i fy merch dderbyn triniaeth i dynnu ei bawd pan oedd hi'n ddwy oed ac mae hi wedi cael triniaeth bellach yn chwech oed.”

"(Yn ystod y llifogydd) mi ddeffron ni yn y bore i ganfod dwy droedfedd o ddŵr yn y tŷ. Llwyddodd fy ngŵr i achub fy ngwaith cwrs a fy nhiwtor, Sharon, sychodd a smwddio'r gwaith i mi. Roeddwn i'n benderfynol o achub fy ngwaith coleg.”

"Symudon ni i westy am rai nosweithiau ac yna i dŷ arall am chwe mis arall.”

"Mi wnaeth fy ngŵr helpu i addysgu'r plant yn ystod cyfnod Covid, doedd ganddo ddim gwaith am ychydig wedi iddyn nhw gyhoeddi'r cyfnod clo”, ychwanegodd Bethan.

"Mae o wedi bod yn gefn mawr i ni. Mi wnes i lwyddo i astudio rhwng gofalu am y plant. Rôn i'n mynd at y llyfrau ar ôl iddyn nhw fynd i gysgu, ac mi oedden ni i gyd yn eistedd wrth fwrdd y gegin i weithio, fy merch gyda'i gwaith ysgol a fi a'r mab gyda'n gwaith coleg.”

"Mae rhannau ohono wedi bod yn anodd ond mae fy nhiwtor wedi bod yn arbennig ac wedi egluro pethau'n dda iawn.”

"Pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd, roeddwn i yn y set is a doeddwn i ddim yn teimlo y gallwn i lwyddo gyda mathemateg, ond diolch i gefnogaeth ac anogaeth Sharon, dw i wedi magu hyder. Dw i'n anelu at wneud TGAU mewn Mathemateg."

Sharon Shaw, Darlithydd Sgiliau ar Gyfer Bywyd enwebodd Bethan. Meddai:

"Breuddwyd Bethan ydy bod yn gynorthwyydd dosbarth. Mae ei brwdfrydedd a'i hangerdd dros ei gwaith coleg yn ardderchog. Mi fedra i weld ei bod hi'n gweithio'n galed gyda'r hwyr ar ôl i'w merch fynd i'w gwely ac mae hi'n gofyn am waith ychwanegol yn rheolaidd. Dwi wrth fy modd ei bod i wedi ennill y wobr Ysbrydoli! hon; mae'n gwbl haeddiannol."

Ychwanegodd Martin Walker, Rheolwr Maes Rhaglen Dysgu Oedolion yn y Gymuned,

"Rydym i gyd yn eithriadol o falch o Bethan a'i chyflawniadau ardderchog. Mae hi'n gweithio'n galed iawn ac mae'r wobr hon yn brawf o hynny. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi Bethan gyda'i hastudiaethau ac yn edrych ymlaen yn arw at weld beth fydd hi'n ei gyflawni nesaf!"

Meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg,

“Llongyfarchiadau i holl enillwyr ac enwebai gwobrau Ysbrydoli! Mae pob un wedi arddangos ymroddiad anhygoel i ddysgu a goresgyn heriau personol sylweddol i gyrraedd ble maen nhw rŵan. Mae gwobrau Ysbrydoli! yn ein hatgoffa nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu rhywbeth newydd, ac y gall dysgu gynnig llwybr at ail gyfle - i ddechrau siwrnai newydd, i ennill cymhwyster cydnabyddedig, neu ddarganfod diddordeb newydd. Mae ymroddiad pob un o enillwyr gwobrau Ysbrydoli i barhau i ddysgu yn esiampl i bob un ohonom, a dylem rannu eu straeon a'u dathlu.”